Newyddion S4C

Gweinidog trafnidiaeth yn ymddiheuro am ddefnyddio ei ffôn wrth yrru bws

13/04/2025
Yr Arglwydd Peter Hendy
Yr Arglwydd Peter Hendy

Mae gweinidog sy’n gyfrifol am reilffyrdd wedi mynd at yr heddlu o’i wirfodd ar ôl cael ei weld yn defnyddio ffôn symudol wrth yrru hen fws Routemaster yn Llundain.

Ymddiheurodd yr Arglwydd Peter Hendy ar ôl i deithiwr ar y bws ei weld yn defnyddio'r ffôn yn ystod taith i godi arian at elusen fis diwethaf.

Mae cyn gomisiynydd Transport for London wedi cynnig taith yn y bws, y mae’n berchen arno, am y tair blynedd diwethaf i godi arian at elusen ar ran y Railway Family.

Cafodd ei riportio i’r heddlu ar Fawrth 31 gan un o’r teithwyr ar y daith a ddigwyddodd dridiau ynghynt.

Dywedodd ei fod wedi anfon neges destun at ffrind am brawf canser y brostad wrth yrru.

Cadarnhaodd Heddlu Llundain fod yr ymchwiliad wedi’i gau i ddechrau oherwydd diffyg tystiolaeth.

Ond mae wedi cael ei ailagor ar ôl i’r Arglwydd Hendy gyfaddef iddo ddefnyddio ei ffôn wrth y llyw.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Arglwydd Hendy: “Fis diwethaf fe ddefnyddiodd Peter Hendy ei ffôn wrth yrru. 

“Mae wedi ymddiheuro’n llawn am y camgymeriad hwn ac wedi cysylltu â’r heddlu.”

Mae’n debygol o dderbyn dirwy a chwe phwynt ar ei drwydded o ganlyniad.

Dywedodd trefnwyr ymgyrch codi arian y Railway Family fod y grŵp “yn ddiolchgar i’r Arglwydd Hendy” am ei gefnogaeth ac nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw gŵyn ffurfiol amdano.

Llun gan Jonathan Brady/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.