Tanau gwyllt yn llosgi mewn nifer o ardaloedd yn y gogledd
Mae tanau gwyllt yn dal i losgi mewn nifer o ardaloedd yn dilyn cyfnod o dywydd eithriadol o sych.
Hyd yma, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymateb i dros 170 o danau glaswellt ac eithin ers mis Ionawr.
Mewn datganiad brynhawn dydd Gwener, dywedodd llefarydd fod eu swyddogion yn ymateb i danau yn ardaloedd Maentwrog, Beddgelert, Llanbedr, Llanberis a Llangollen.
Mae Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gofyn i gymunedau i helpu i atal tanau sydd allan o reolaeth.
Dywedodd: “Yng Ngogledd Cymru, mae ein criwiau tân wedi mynychu dros 170 o danau glaswellt ac eithin ers mis Ionawr, gyda dros 40 yn cael eu cyfri fel tanau gwyllt. Mae llawer o'r tanau gwyllt hyn wedi gofyn am bresenoldeb criw a nifer o swyddogion am oriau ar y tro.
“Mae ein staff ystafell reoli hefyd wedi delio â chynnydd sylweddol mewn galwadau, gan ddelio â hysbysiadau o losgi dan reolaeth a galwadau gan aelodau o'r cyhoedd sy'n adrodd am y tanau hyn sy'n aml yn weledol iawn.
“Rydym yn parhau i rannu negeseuon pwysig ynghylch pryd y dylai llosgi ddigwydd, a rhannu negeseuon diogelwch am sut i atal tanau glaswellt ac eithin trwy'r ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt."
Wythnos diwethaf fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin a De Cymru nad oedd “angen rhagor o alwadau” gan y cyhoedd am y tanau gwyllt oedd yn llosgi mewn sawl ardal yng Nghymru, oni bai ei fod yn argyfwng.
Dros yr wythnos ddiwethaf mae tanau wedi bod ym Mrynberian yng Nghrymych; yn Hebron a Glandŵr ger Hendy-gwyn; yng Nghefn Rhigos ger Aberdâr a Llanllwni, Sir Gaerfyrddin.
Bu tanau hefyd yng Nghefn Golau, Tredegar, Pontycymer, a'r Pandy.
Cafwyd tân mawr yn ardal Wattsville a Cross Keys hefyd wythnos yn ôl.