Newyddion S4C

Undeb Rygbi Cymru yn talu £780,000 am Rygbi Caerdydd

11/04/2025
210325_Cardiff_v_Lions

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi datgelu ei fod wedi talu £780,000 am Rygbi Caerdydd.

Fe wnaeth yr Undeb gymryd rheolaeth o ranbarth y brifddinas ddydd Mercher, wedi i’r cwmni Cardiff Rugby Limited fynd i ddwylo’r gweinyddwyr dros dro.

Fe wnaeth y pryniant sicrhau dyfodol tymor byr 150 o staff, gan gynnwys chwaraewyr a hyfforddwyr, ac fe wnaeth sicrhau bod y clwb yn gallu parhau i chwarae eu gemau'r tymor hwn yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Dywedodd cadeirydd URC, Richard Collier-Keywood: “Er ei fod wedi’i berchnogi gan Undeb Rygbi Cymru bellach, ein bwriad yw trin Caerdydd fel clwb rygbi annibynnol, yn debyg i’r timau rhanbarthol eraill a bydd URC yn cymryd rôl y ‘perchennog’.

“Roedden ni eisiau cynnig harbwr diogel, wrth i ni bwyllo ac edrych ar yr hyn sy'n iawn yn y hir dymor.

“Roedd cost uniongyrchol y caffaeliad yn dod i gyfanswm o tua £780,000. Fe wnaeth hynny dalu am yr asedau ac ariannu’r costau gweinyddol, sy’n cynnwys cymryd ymlaen £300,000 o ddyled.

“Cafodd amryw o gontractau cyflenwyr allweddol eu trosglwyddo i is-gwmni URC er mwyn galluogi busnes Rygbi Caerdydd i barhau i fasnachu.”

Fe wnaeth yr Undeb gadarnhau hefyd fod ei brif swyddog gweithredu Leighton Davies a’r prif swyddog data a digidol Steve King wedi’u penodi’n ddau gyfarwyddwr ar y clwb.

Mae Caerdydd ar hyn o bryd yn y nawfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Bydd y clwb yn dychwelyd i chwarae ar 19 Ebrill gan wynebu’r Gweilch fel rhan o Ddydd y Farn yn Stadiwm Principality.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.