Newyddion S4C

Dyfodol dur: Galw ASau'n ôl i Dŷ’r Cyffredin ddydd Sadwrn

11/04/2025
Scunthorpe

Fe fydd aelodau senedol yn cael eu galw’n ôl i Dŷ’r Cyffredin i drafod dyfodol cwmni British Steel ddydd Sadwrn.

Bydd y sesiwn ar y penwythnos yn cael ei chynnal i drafod dyfodol ansicr gwaith dur Scunthorpe sydd yn rhan o British Steel.

Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud mai nod y Llywodraeth yw pasio deddfwriaeth frys mewn un diwrnod i warchod y gwaith dur yn Scunthorpe gan fod ei dyfodol “yn y fantol”.

Dywedodd Prif Weinidog Prydain y bydd y Llywodraeth yn “cadw pob opsiwn ar y bwrdd” yn dilyngalwadau am wladoli'r gwaith dur, ond ni wnaeth ateb cwestiwn am union gost y cynllun i warchod y gwaith dur.

Mae Jingye, perchennog Tsieineaidd y busnes, yn bwriadu cau'r ffwrneisi chwyth a newid i ffurf wyrddach o gynhyrchu dur, fel sydd wedi digwydd ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot yn barod.

Mae gweinidogion wedi dweud bod yr holl opsiynau dan ystyriaeth ar gyfer dyfodol safle Scunthorpe, gan gynnwys gwladoli, yn dilyn pryderon y byddai cau’r safle yn gadael Prydain heb unrhyw wneuthurwyr dur crai domestig.

Y tro diwethaf i ASau gael eu galw'n ôl i'r Senedd ar ddydd Sadwrn oedd yn 1982.

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu LLywodraeth y DU am ystyried achub gwaith dur Scunthorpe pan na chafwyd yr un ystyriaeth i waith dur Port Talbot.

Roedd Llafur wedi wfftio awgrym Plaid Cymru y dylid gwladoli Port Talbot, gan alw'r syniad yn "freuddwyd gwrach."

Dywedodd arweinydd y Blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS: “Mae’r Senedd yn cael ei galw’n ôl yfory i drafod gwladoli gwaith dur Scunthorpe.

“Ond pan ddinistriodd grymoedd y farchnad fyd-eang fywoliaeth Gymreig ym Mhort Talbot, fe wfftiodd Llafur alwadau Plaid Cymru am wladoli...

"Mewn argyfwng go iawn, mae llywodraethau’n camu i’r adwy i amddiffyn eu buddiannau strategol. 

"Cydnabodd Plaid Cymru bwysigrwydd gwneud dur yng Nghymru. Dewisodd Llafur edrych y ffordd arall.

“Pan oedd hi'n Gymru, roedden nhw'n ein gwatwar. Nawr achos Lloegr yw hi, acmaen nhw'n gweithredu."

Bydd y cyfarfod yn San Steffan ddydd Sadwrn yn dechrau am 11:00, pan fydd ASau yn dadlau “cynigion deddfwriaethol i sicrhau bod gweithrediad parhaus ffwrneisi chwyth British Steel yn cael ei ddiogelu”, yn ôl swyddfa Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin.

Mewn llythyr at ASau a rannwyd ag asiantaeth newyddion PA, dywedodd Syr Lindsay ei fod yn fodlon bod “budd cyhoeddus” mewn galw ASau’n ôl.

Llun: Alan Murray-Rust/Wikipedia

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.