
'Testun pryder': Y gostyngiad mwyaf 'ers degawdau' yn nifer y drudwy yng Nghymru
Mae'r gostyngiad mwyaf yn nifer y drudwy yng Nghymru "ers degawdau" yn "destun pryder" meddai'r RSPB.
Mewn digwyddiad a gafodd ei chynnal gan RSPB Cymru, roedd nifer cyfartalog y drudwy ar gofnod ar ei isaf mewn gerddi ar hyd y wlad.
Fe wnaeth dros 25,000 o bobl gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2025 ar ddechrau'r flwyddyn, gan nodi pa adar roeddynt yn eu gweld.
Aderyn y To, Titw Tomos Las a’r Drudwy yw'r adar mwyaf cyffredin yng Nghymru.
Ond er bod y drudwy yn y trydydd safle, cofnodwyd eu nifer isaf ers dechrau cadw cofnodion cenedlaethol, meddai'r RSPB.
Dywedodd Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru bod Cymru wedi colli dwy ran o dair o'u hadar drudwy.
“Mae’r rhan fwyaf o’r drudwy a welwn yn y gaeaf, sy’n olygfa gyffrous wrth iddynt hedfan i glwydo gyda’r nos, yn dod yma o ogledd-ddwyrain Ewrop i chwilio am fwyd a hinsawdd fwyn," meddai.
"Mae’r niferoedd hirdymor wedi gostwng 60% ar draws Ewrop oherwydd newidiadau amaethyddol, felly mae llai i’w gweld yng Nghymru.
“Yng Nghymru, rydym ni wedi colli dwy ran o dair o’n drudwy bridio mewn llai na 30 mlynedd, felly maen nhw ar Restr Goch Cymru fel un o’r rhywogaethau sydd â’r gostyngiadau mwyaf."

Mae'r RSPB wedi dweud fod pobl yn gallu gwneud pethau er mwyn ceisio helpu cynyddu'r niferoedd unwaith eto.
Mae adar fel y drudwy a’r aderyn du yn hoffi chwilota am bryfed ac ysglyfaeth arall, felly mae cadw lawntiau’n naturiol yn ffordd o helpu’r niferoedd i ffynnu.
Hefyd, maen nhw'n hoff o ddod o hyd i loches i nythu mewn agoriadau mewn hen adeiladau, ond gyda mwy a mwy o waith adnewyddu a dymchwel ar adeiladau o’r fath, mae’r drudwy yn ei chael yn fwy anodd dod o hyd i gartref.
Fe allai blychau nythu, yn ddelfrydol yn wynebu'r gogledd ddwyrain gyda mynedfa drwy dwll 45mm, ddarparu safleoedd nythu parod angenrheidiol, dywedodd yr RSPB.