Meddyg yn euog o ymosodiadau rhyw ar weithwyr ysbyty
Mae meddyg a gafwyd yn euog o ymosodiadau rhyw ar ddwy fenyw oedd yn aelodau staff mewn ysbyty yn Abertawe wedi osgoi carchar.
Roedd Naleen Thota, 55 oed, o Benllergaer, wedi ei gael yn euog o ddau gyfrif o ymosod yn rhywiol ar ddwy fenyw yn eu gweithle yn Ysbyty Treforys, ble’r oedd yn uwch-feddyg.
Cafodd ddedfryd o 21 mis yn y carchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd.
Fe fydd yn cael ei gofrestru fel troseddwr rhyw am y 10 mlynedd nesaf ac yn derbyn gorchymyn yn ei atal rhag gwneud unrhyw gysylltiad â’r ddwy ddioddefwraig dros yr un cyfnod.
Fe fydd yn rhaid iddo gwblhau 300 awr o waith di-dâl yn ogystal.
Yn ôl yr heddlu, roedd gweithredoedd Thota wedi effeithio’n “enfawr” ar iechyd meddwl y ddwy a ymosodwyd arnynt.
Dywedodd y Sarjant Danielle Thorne: “Fe wnaeth Naleen Thota gamdrin ei safle fel uwch-feddyg yn Ysbyty Treforys.
“Ar ddau achlysur gwahanol, fe wnaeth yn siŵr ei fod ef a’i ddioddefwyr ar eu pen eu hunain gyda’i gilydd ac nad oedd neb yn gallu gweld beth roedd yn ei wneud.
“Roedd hyn yn ymddygiad erchyll sydd wedi effeithio yn fawr ar iechyd meddwl ei ddioddefwyr."
“Dangosodd y ddau ddioddefwr ddewrder aruthrol wrth ddod ymlaen ac adrodd gweithredoedd Naleen Thota, a gobeithiwn eu bod yn teimlo rhywfaint o gysur ei fod bellach wedi’i gael yn euog a’i ddedfrydu.”