
Rhybudd y 'gallai pobl farw' yn y gogledd ar ôl dod â chynllun cymorth cyffuriau i ben

Rhybudd y 'gallai pobl farw' yn y gogledd ar ôl dod â chynllun cymorth cyffuriau i ben
Mae elusen yn dweud y ‘gallai pobl farw’ yn sgîl penderfyniad i ddod â chynllun i helpu pobl sy'n gaeth i gyffuriau i ben yng ngogledd Cymru.
Fe ddaeth cynllun ‘Dechrau Newydd’ i ben ym mis Mawrth, gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobin yn gwneud y penderfyniad wedi ‘adolygiad trylwyr o ofynion y gwasanaeth’.
Ond mae elusen Kaleidescope, oedd yn darparu'r gwasanaethau, yn dweud y gallai’r bwlch yn y system rŵan arwain at farwolaethau, gyda phryder y gallai pobl gymryd gor-ddosau.
Gwadu hynny mae’r Comisiynydd Andy Dunbobbin, gan ddweud mai'r bwriad ydi creu gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.
Mae Dechrau Newydd yn gynllun sydd wedi bod ar waith ar draws gogledd Cymru ers pum mlynedd ac yn canolbwyntio ar helpu pobl fregus sydd â dibyniaeth cyffuriau.
Mae’n cefnogi pobl sy’n gadael y carchar, yn cynnig therapi cyffuriau llai niweidiol fel methadon ac yn annog adferiad cleifion sy’n cael eu cyfeirio.
Cyhoeddodd swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru fod y gwasanaeth yn dod i ben ar 31 Mawrth eleni, a bod y penderfyniad hwnnw wedi’i wneud ar y cyd gan y Comisiynydd, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf a Bwrdd Cynllunio’r ardal.
Ond mae elusen Kalaidescope yn dweud fod y goblygiadau yn enfawr.
“Mae gwasanaethau fel Dechrau Newydd... mae nhw’n safio bywydau yng ngogledd Cymru”, meddai Sioned Hughes o’r elusen.
“Heb nhw, mae na siawns y bydd pobl yn marw a dyna yw prif boen fi.
“Da ni’n safio bywydau yng ngogledd Cymru a beth sy’n mynd i ddigwydd nesa, lle mae nhw yn mynd i fynd pan does na ddim system mewn lle ac os mai’r unig system sydd yna i helpu ydi’r heddlu – dydi hynny ddim yn digon da”.
Yn ôl Sioned Hughes mae’r penderfyniad hefyd yn golygu y bydd 20 o bobl oedd hefo ‘profiad byw’ hefyd yn colli eu swyddi.
Yn ôl ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae opiodau wedi cyfrannu at fwy o farwolaethau yng Nghymru y llynedd nag unrhyw sylwedd arall, gyda 125 o farwolaethau, a’r gyfradd ar draws Cymru yn ystyfnig o uchel.

Tra bod y Swyddfa’r Comisiynydd yn dweud mai’r flaenoriaeth ydy sicrhau darpariaeth newydd ar gyfer gwasanaethau ymyrraeth cyffuriau mae’r gwr oedd yn y swydd cyn Andy Dunbobbin, Arfon Jones, hefyd yn poeni.
“Pa bynnag ffordd da chi’n sbio arnyn nhw, pobl fregus ydyn nhw," meddai.
Roedd y cyn-gomisiynydd yn “siomedig” i glywed y byddai’r cynllun yn dod i ben ar ôl iddo gomisiynu’r gwasanaeth pan oedd wrth y llyw.
“Y broblem ydi mae gen ti gormod o fysedd yn y brwes; y bwrdd iechyd, y gwasanaeth brawf, heddlu’r gogledd, y comisiynydd a hefyd Kaleidesope a dio ddim am weithio efo gymaint a hynny wrthi.
“Does dim dwywaith mi fydd 'na fwlch yn y ddarpariaeth ac mae 'na fwlch i bobl fregus gan obeithio’n fawr na neith neb farw o gymryd gor-ddos”.
Mewn cyfweliad efo Newyddion S4C dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, bod y cytundeb wedi dod i ben er mwyn cynnal adolygiad o’r gwasanaethau.
“”Nid dyma ddiwedd cefnogaeth ond cyfle i adolygu”, meddai.
“Da ni wedi ymrwymo i helpu pobl sydd yn dibynnu ar gyffuriau, ac mae’n rhan ganolog o’n gwaith ar gyfer y dyfodol”.
“Fydd na ddim bwlch, yng ngogledd Cymru. Mae gynnon ni bartneriaethau cryf a bydd hynny’n sicrhau y bydd modd helpu rheini sydd a dibyniaeth”.
Ychwanegodd nad oedd yn gweld honiad Kaleidsecope, ‘y gallai pobl farw yn sgîl y penderfyniad’, fel sylw a ieithwedd ‘defnyddiol’ ac y gallai achosi pryder i bobl sydd a dibyniaeth.
Gyda’r cynllun bellach ar ben mae dogfennau Swyddfa’r Comisiynydd yn nodi bod tanwariant o £400,000 ar y cynllun.
Dweud mae Mr Dunbobbin y bydd cyfle yn y dyfodol i benderfynu ar ddefnydd y cyllid hwnnw.
Mae’n dweud mae’r flaenoriaeth rŵan ydi edrych ar greu gwasanaeth ar gyfer y dyfodol wrth adolygu gwasanaethau.