'Andros o broblem' dod o hyd i brynwr i Rygbi Caerdydd
Mae cyn brif weithredwr Chwaraeon Cymru wedi dweud nad ydy o yn gweld unrhyw un eisiau prynu Rygbi Caerdydd a bod hi'n bwysig i Undeb Rygbi Cymru gamu mewn.
Daw hyn wedi'r newyddion ddydd Mawrth bod y clwb yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Wrth siarad ar BBC Radio Cymru dywedodd Huw Jones bod hi'n "andros o broblem" dod o hyd i brynwr newydd.
"Pwy sydd efo arian ar y funud sydd mynd i fuddsoddi i fewn i rygbi?" gofynnodd.
"Ar wahân i Undeb Rygbi Cymru dwi ddim yn gweld neb arall yn gallu dod i fewn.
"Ac wrth gwrs mae'n bwysig iawn i'r Undeb ddod i fewn ac i helpu'r clwb oherwydd maen nhw wedi deud bod nhw isio gweld pedwar tîm proffesiynol rygbi yng Nghymru i wneud yn siŵr bod ni yn gallu cael datblygiadau yn y dyfodol."
'Diddordeb'
Y gred yw y bydd yr Undeb yn cymryd cyfrifoldeb dros y rhanbarth yn y tymor byr.
Dywedodd Huw Jones bod yna "gwestiwn i'r clwb" ynglŷn â sut yr oedden nhw wedi cyrraedd y sefyllfa hon am fod yna sôn bod y llyfrau yn iawn flwyddyn yng nghynt.
Mae'n dweud bod hwn yn gyfnod "anodd" gyda "pryder am y staff sy'n gweithio yn y clwb, y chwaraewyr a'r hyfforddwyr ynglŷn â beth sydd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol".
Yn ôl Huw Jones does dim modd cael pedwar rhanbarth proffesiynol erbyn hyn am nad oes digon o arian yn y gêm yng Nghymru.
"Os da ni yn mynd i gael tri clwb neu hyd yn oed dau glwb yng Nghymru, rhaid neud yn siŵr bod nhw yn yr ardaloedd iawn, bod yna ddiddordeb."
Llun: Huw Evans