Newyddion S4C

Celebrity Big Brother yn dychwelyd i'r sgrin fach

08/04/2025
AJ Odudu a Will Best

Mae cyfres eiconig Celebrity Big Brother wedi dychwelyd i’r sgrin fach unwaith eto eleni. 

Dyma’r eildro i’r gyfres boblogaidd gael ei darlledu ar ITV ar ôl dychwelyd i’r sgrin fach y llynedd am y tro cyntaf mewn chwe blynedd. 

AJ Odudu a Will Best sy'n dychwelyd i gyflwyno'r gyfres unwaith eto. 

Ond pwy sydd yn serennu yn y gyfres eleni? 

Mae’r seren Hollywood Mickey Rourke ymhlith 13 o selebs sydd yn cymryd rhan yn y gyfres eleni. 

Mae’n ymuno gyda’r ddawnswraig JoJo Siwa, yr actores o EastEnders Patsy Palmer, seren Love Island Chris Hughes a’r cyn aelod seneddol Ceidwadol Michael Fabricant.  

Mae’r cerddor Chesney Hawkes, y gyflwynydd Trisha Goddard, pencampwyr y Gemau Olympaidd Daley Thompson, a seren cyfres The Only Way Is Essex Ella Rae Wise hefyd yn ymddangos yn y gyfres. 

Mae’r actor Jack P Shepherd sy’n adnabyddus am ei rôl yn Coronation Street hefyd yn rhan o Celebrity Big Brother eleni, yn ogystal â’r digrifwr Donna Breston, y cyflwynydd Angellica Bell a’r seren drag ac enillydd RuPaul’s Drag Race, Danny Beard. 

Cyn dychwelyd i ITV y llynedd, y tro diwethaf y cafodd Celebrity Big Brother ei darlledu oedd yn 2018, a hynny ar Channel 5. Enillodd yr actor Ryan Thomas. 

Y llynedd, fe enillodd y seren realiti David Potts. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.