Llywodraeth Cymru 'ddim yn gwneud yr un penderfyniad' ar doriadau lles

Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru wedi dweud na fyddai ei lywodraeth wedi gwneud yr un penderfyniadau dros doriadau lles â’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Wrth siarad ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd Jeremy Miles, “bydden ni ddim fel llywodraeth wedi neud y penderfyniadau rheini.”
Daw ei sylwadau yn sgil toriadau o £4.8bn o’r gyllideb les a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Lafur y DU yr wythnos diwethaf. Dyma’r feirniadaeth gryfaf hyd yn hyn gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Ar ddydd Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei bod yn cydnabod bod pobl yn "dioddef" ac yn "poeni" am y newidiadau, sy’n cynnwys tynhau’r rheolau ar Daliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP) sy’n cael eu hawlio gan 275,000 o bobol yng Nghymru.
Mae Ms Morgan wedi rhybuddio y byddai'r toriadau yn cael mwy o effaith yng Nghymru.
Wrth siarad ar raglen Y Byd yn ei Le, dywedodd Jeremy Miles: “Nid penderfyniadau Llywodraeth Cymru yw rhain o ran budd-daliadau.
“Bydden ni ddim fel llywodraeth wedi neud y penderfyniadau rheiny ac nid ein penderfyniadau ni yw e i’w hamddiffyn.”
‘Heb newid fy meddwl’
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd nad oedd ei farn wedi newid ynglŷn â’i wrthwynebiad tuag at bil cymorth i farw San Steffan.
Dywedodd Mr Miles y byddai'n cyfarfod ag Aelod Seneddol Llafur y DU sy'n arwain y mesur, Kim Leadbetter, yr wythnos nesaf i drafod goblygiadau'r bil yng Nghymru.
“Mae hi’n dod yma i Gymru i gael trafodaeth gyda fi am beth yw goblygiadau ymarferol yr hyn sy’n mynd drwy San Steffan ar hyn o bryd,” meddai.
Ond dywedodd Mr Miles nad oedd gwaith craffu'r pwyllgor a gwelliannau i'r bil yn San Steffan wedi newid ei feddwl ers y bleidlais symbolaidd yn y Senedd ar Gymorth i Farw ym mis Hydref.
“Dyw e ddim wedi newid fy meddwl i o ran egwyddor y peth," meddai.
"Dwi’n credu bod y cwestiwn yma o y pwysau sy’n dod ar bobl ar ddiwedd oes yn gwestiwn dyrys iawn, ac mae cyfrifoldebau pwysig yn dod yn sgil hynny.
"A hefyd dwi’n poeni am y berthynas rhwng rhai o’r penderfyniadau 'ma a byd y gwasanaeth iechyd, a rôl meddygon yn hyn o beth, ac felly dyw rheini heb gael ei ateb yn ystod y broses yn fy safbwynt personol i.”
Pan ofynnwyd iddo a ddylai’r Senedd gael pleidlais ar weithrediad y bil yng Nghymru, oherwydd bod Iechyd wedi ei ddatganoli, dywedodd Mr Miles:
“Mae gennym ni egwyddor Confensiwn Sewell, sy’n mynnu bod gan bob Senedd ddatganoledig lais ar hyn, ac mae llais y Senedd yma yng Nghymru wedi bod yn glir ar hyn hyd yn hyn.”
Mae modd gwylio cyfweliad llawn Jeremy Miles ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C Clic a BBC iPlayer.