Wrecsam: Carchar am oes i ddyn 37 oed am lofruddio ei ffrind
Mae dyn o Wrecsam wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei ffrind.
Cafodd Matthew Hardy, 37 oed ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener.
Cafodd ei ganfod yn euog o lofruddio Antony Derwent, 52 gan reithgor fis diwethaf.
Bydd angen iddo dreulio o leiaf 21 mlynedd dan glo cyn cael ei ystyried am barôl.
Fe wnaeth Hardy ladd Antony ar ôl ymosod arno yn y fflat lle'r oedd y ddau yn byw ar Wheat Close yng Ngwersyllt ym mis Ebrill y llynedd.
Cafodd Antony ei ddarganfod gan barafeddygon tua 05:30 ar 7 Ebrill, yn gorwedd mewn pwll o waed wedi iddo ddioddef anafiadau difrifol i'w ben.
Bu farw 20 munud yn ddiweddarach.
Gwadu
Gwadodd Hardy iddo lofruddio Antony Derwent ac fe ddywedodd bod dyn nad oedd yn bodoli o'r enw "Shane neu Shaun" efallai wedi ymosod ar Antony tua chanol nos.
Honnodd Hardy yn hwyrach bod Antony wedi disgyn lawr y grisiau tra'i fod wedi meddwi.
Ychwanegodd ei fod wedi helpu Antony nôl fyny'r grisiau ond ei fod wedi gwrthod derbyn cymorth meddygol, felly fe adawodd ef ar y llawr.
Parhau wnaeth Hardy gyda'r stori fod "Shane neu Shaun" wedi dychwelyd i'r fflat ac ymosod ar Antony yn oriau mân y bore.
Nid oedd yr heddlu wedi darganfod CCTV o unrhyw un oedd yn debyg i ddisgrifiad "Shane neu Shaun" ar y noson cafodd Antony ei ladd, er bod Hardy yn honni ei fod yn ffrind i Antony ers rhai blynyddoedd.
Daeth ymchwiliadau gan Heddlu Gogledd Cymru o hyd i negeseuon ar-lein a anfonwyd gan Hardy at ffrind ychydig wedi hanner nos ar 7 Ebrill, yn ceisio creu stori i ddianc rhag wynebu'r hyn yr oedd wedi gwneud.
Yn ystod sgwrs ar gêm gyfrifiadurol tua 05:00 y bore hwnnw roedd gan ei ffrind bryderon am Antony a galwodd am ambiwlans - er i Hardy honni ei fod eisoes wedi ceisio cael cymorth gan gymydog ar gyfer ambiwlans, a dywedodd y byddai'r aros yn hir.
'Lefel eithafol o drais'
Dywedodd Andrew Slight o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Lladdodd Matthew Hardy ddyn a oedd yn ymddiried ynddo mewn ymosodiad parhaus a chreulon.
“Roedd yr anafiadau a achoswyd gan Hardy yn dangos lefel eithafol o drais.
“Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron, yn ogystal â’r ymchwiliad gan Heddlu Gogledd Cymru, wedi arwain at yr euogfarn hon, gan ddod â llofrudd Antony o flaen ei well.
“Rydyn ni’n cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Antony am eu colled enfawr.”