Gaza: 27 wedi eu lladd ar ôl ymosodiad ar ysgol gan Israel
Mae o leiaf 27 person wedi eu lladd ar ôl ymosodiad gan Israel ar adeilad ysgol yng ngogledd Gaza oedd yn lloches i deuluoedd heb gartrefi.
Cafodd dwsinau yn fwy eu hanafu pan ymosododd Israel o'r awyr ar ysgol Dar al-Arqam yng ngogledd-ddwyrain rhanbarth Tuffah.
Dywedodd lluoedd milwrol Israel eu bod wedi targedu "terfysgwyr amlwg oedd mewn canolfan rheoli gweithredoedd Hamas" yn y ddinas, heb sôn am ymosod ar ysgol.
Yn ôl llefarydd ar ran asiantaeth amddiffyn Hamas, Mahmoud Bassal, roedd plant a menywod ymysg y meirw.
Ers i'r cadoediad rhwng Gaza ac Israel dod i ben ar 1 Mawrth mae ymosodiadau gan Israel wedi parhau'n gyson ar Lain Gaza.
Yn ôl adroddiadau mae 97 o bobl wedi cael eu lladd yn Gaza yn y 24 awr ddiwethaf o ganlyniad i ymosodiadau gan Israel.
Hefyd mae'r wlad wedi cychwyn ymgyrch ar y tir i feddiannu rhannau mawr o diriogaeth Palestina.
Roedd fideo o ysbyty cyfagos al-Ahli yn dangos plant yn cael eu rhuthro yno mewn ceir a thryciau ag anafiadau difrifol wedi'r ymosodiad fore Gwener.
Dywedodd datganiad gan Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) fod y safle yn Ninas Gaza a gafodd ei daro wedi cael ei ddefnyddio gan Hamas i gynllunio ymosodiadau yn erbyn sifiliaid a milwyr Israel.
Ychwanegodd fod nifer o gamau wedi'u cymryd i liniaru niwed i sifiliaid.
Dros nos, cafodd o leiaf 12 o bobl eu lladd pan gafodd sawl cartref yn ardal Shejaiya eu taro, meddai Hamas.
Roedd fideo yn ymddangos cyrff dau blentyn ifanc yn cael eu tynnu gan achubwyr o weddillion adeilad oedd wedi dymchwel.
Bore Iau gorchmynnodd yr IDF i drigolion Shejaiya a phedair ardal gyfagos adael ar unwaith i orllewin Gaza, gan rybuddio ei fod yn "gweithredu gyda grym mawr..i ddinistrio'r seilwaith terfysgol".
Yr wythnos hon, cyhoeddodd yr IDF orchmynion gwacáu tebyg ar gyfer sawl ardal yng ngogledd Gaza, yn ogystal â dinas ddeheuol gyfan Rafah a rhannau o Khan Younis gyfagos, gan annog tua 100,000 o Balesteiniaid i ffoi, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.
Llun: UNifeed/Y Cenhedloedd Unedig