
Cwmni cynllun peilonau'n mynd â thirfeddianwyr i'r llys
Cwmni cynllun peilonau'n mynd â thirfeddianwyr i'r llys
Mae cwmni sydd yn bwriadu codi milltiroedd o beilonau drwy gefn gwlad Cymru wedi cadarnhau eu bod yn mynd â thirfeddianwyr i'r llys.
Dywedodd cwmni Green GEN Cymru wrth Newyddion S4C bod 11 gwrandawiad llys wedi eu cadarnhau wedi i berchnogion tir wrthod caniatâd i'w swyddogion gael mynediad i'w tir.
Bydd y gwrandawiadau cyntaf ar 7 ac 14 Ebrill.
Mewn datganiad, dywedodd Green GEN Cymru eu bod nhw'n ceisio gweithio yn gadarnhaol gydag unigolion a chymunedau, a bod ganddyn nhw hawl cyfreithiol i gael mynediad at dir.
Gwrthod mynediad
Mae Dyfan Walters yn byw ar gyrion Llanymddyfri wrth ymyl un o'r llwybrau arfaethedig o beilonau. Mae eisoes wedi gwrthod mynediad i'w dir i weithwyr Green GEN Cymru ac yn dweud nad yw e'n ofni mynd i lys.
“Mae mynd i newid tirlun yr ardal yn gyfan gwbl," meddai wrth Newyddion S4C.
“O’r ymchwil yr ydym ni wedi gwneud mae ffordd gwell i wneud e. Mae pobl yn y llys yn barod. Hwnna yw’r dechrau, ma’ pawb yn teimlo mor gryf, hwnna yw fel mae e’n mynd.

“Mae modd tanddaearu â cost sy’n debyg iawn i beth mae Green GEN Cymru yn sôn am o ran pris codi’r peilonau.
“Sai’n gallu deall pam fyddai rhywun eisiau symud ymlaen gyda’r peilonau pan fyddai’r gymuned yn fodlon gweithio gyda nhw i rhoi’r ceblau o dan y ddaear.”
Dywed Green GEN Cymru eu bod yn "gweithio nawr i adeiladu rhwydwaith ynni gwyrdd i Gymru" fydd yn mynd i'r afael a'r "argyfwng ynni, argyfwng hinsawdd a'r argyfwng costau byw".
Gwrthdaro
Mae aelod Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn y Senedd, Adam Price, wedi rhybuddio'r cwmni rhag parhau, gan ddweud ei fod yn ofni y gallai'r bygythiadau cyfreithiol arwain at wrthdaro.
"Pam bygwth cyfraith yn erbyn unigolion a chymunedau? Gadewch i ni gymryd cam yn ôl a chael deialog."
"Os yw'r cwmni yn parhau ar hyd y llwybr yma o gymryd camau bygythiol cyfreithiol, gan dargedu unigolion o fewn i gymunedau, mae'r gymuned yn mynd i ymateb.
"Ry'n ni'n wynebu sefyllfa lle, os bydd y gymuned yn parhau â'r strategaeth yma, byddwn ni'n gweld gwrthdaro cymdeithasol ar raddfa fawr yn erbyn y cynlluniau yma."

Mae tri chynllun arfaethedig gan y cwmni, gyda phob un yn golygu codi peilonau ar hyd milltiroedd o dir: Tywi-Teifi; Tywi-Wysg a Fyrnwy-Frankton.
Y bwriad yw cysylltu parciau ynni gwyrdd newydd gyda'r Grid Cenedlaethol.
Er i lefarydd ar ran y cwmni gytuno'n wreiddiol i gyfweliad gyda Newyddion S4C, fe dynnon nhw yn ôl ychydig oriau cyn i'r ffilmio ddigwydd.
Dywedodd y cwmni bod hynny o ganlyniad i feirniadaeth wleidyddol a'u dymuniad i fod yn gyson o ran eu datganiadau cyhoeddus.
Mewn datganiad, dywedodd Green GEN Cymru bod isadeiledd trydan o arwyddocâd cenedlaethol, a bod hawl felly ganddyn nhw i gael mynediad i dir.
Maen nhw'n dweud eu bod yn gweithio'n gadarnhaol gyda chymunedau ac yn cynnig talu am gyngor annibynnol proffesiynol i dirfeddianwyr yn ogystal a chynnig iawndal am unrhyw ddifrod i'r tir sydd yn digwydd yn ystod archwiliadau.
Dywed y cwmni y gallai anghenion trydan Cymru dreblu erbyn 2050, a bod angen seilwaith grid newydd ar frys i fynd i'r afael a hynny.