Diffyg athrawon yn her wrth ystyried adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg ym Mlaenau Gwent
Mae yna bryder y gallai prinder athrawon Cymraeg yn ardal Blaenau Gwent fod yn rhwystr i adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg yno.
Clywodd cyfarfod o bwyllgor craffu'r cyngor sir ddydd Mawrth bod disgyblion oed uwchradd yr ardal ar hyn o bryd yn mynd i Ysgol Gymraeg Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl, gan groesi ffiniau Blaenau Gwent i Dorfaen.
Yn ôl y Cynghorydd Joanne Watts sy’n gyfrifol am ddatblygu ysgolion y sir, ni fydd gan Ysgol Gymraeg Gwynllyw le ar gyfer disgyblion Blaenau Gwent y tu hwnt i fis Medi 2028.
Mae yna bosibilrwydd y gallai disgyblion teithio i Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd yn lle. Ond roedd rhai cynghorwyr yn pryderu y byddai hynny’n rhy bell i ddisgyblion orfod teithio er mwyn mynd i’r ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Watts sy’n gyfrifol am ddatblygu ysgolion y sir bod sawl awdurdod lleol ledled Cymru yn wynebu problemau tebyg a bod Llywodraeth Cymru yn ceisio datrys y broblem ar hyn o bryd.
Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd David Wilkshire: “Da ni angen ysgol uwchradd Cymraeg ym Mlaenau Gwent achos mae’n costio arian i ni anfon ein plant y tu hwnt i’r sir.”
Ond roedd yn pryderu am sut y byddai modd sefydlu ysgol uwchradd o’r fath yn sgil prinder athrawon Cymraeg yn yr ardal leol a thu hwnt.
“O ran y gweithlu – mae’n broblem genedlaethol ac mae Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau gwahanol er mwyn hyfforddi rhagor o athrawon,” meddai.
'Digon o gyfleoedd'
Cafodd cynghorwyr wybod mai’r nod erbyn 2032 yw y bydd 10% o ddisgyblion ym Mlwyddyn 1 ym Mlaenau Gwent yn derbyn eu haddysg drwy’r Gymraeg.
Mae hyn yn gyfystyr â 75 o ddisgyblion a fydd bellach yn cael eu haddysg drwy’r Gymraeg yn unol â chynllun strategol Cymraeg mewn addysg gan Lywodraeth Cymru.
Fe fyddai hynny yn gynnydd o’r 6%, neu’r 47 o ddisgyblion a gafodd eu haddysg drwy’r Gymraeg ym mis Gorffennaf 2024.
Yn 2019, roedd 4% neu 29 o ddisgyblion yr ardal yn cael eu haddysg drwy’r Gymraeg.
Dywedodd arweinydd y grŵp annibynnol, y Cynghorydd Wayne Hodgins y byddai modd adeiladu ysgol newydd “mewn nifer o lefydd.”
“Mae ‘na gyfleoedd yma,” meddai.
Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Tommy Smith y bydd angen cynnal ymchwil pellach ar y mater, gan gynnwys cyflwyno adroddiad gyda’r canfyddiadau.
Fe fydd diweddariadau ar gynllun strategol Cymraeg mewn addysg bellach yn cael ei gyflwyno ger bron Cabinet Llafur ar 9 Ebrill.