Caergybi: Tân yn achosi 'difrod sylweddol'
Fe wnaeth tân achosi "difrod sylweddol" i ystafell mewn tŷ yng Nghaergybi ddydd Sadwrn.
Cafodd swyddogion o Wasanaeth Tân Gogledd Cymru eu galw i'r tân yn ardal Cybi Close am 09:12.
Fe achosodd y tân 100% o ddifrod i un ystafell yn y tŷ ond ni chafodd neb eu hanafu.
Cafodd tri o griwiau tân eu galw i'r digwyddiad.