Newyddion S4C

Dylanwad Dug Sussex ar elusen er cof am ei fam yn 'wenwynig'

Dug Sussex Harry

Mae cadeirydd elusen a sefydlwyd gan Ddug Sussex wedi beirniadu ei ddylanwad fel un "gwenwynig" ar y sefydliad.

Cyhoeddodd Harry yn gynharach yr wythnos hon ei fod wedi rhoi’r gorau i noddi elusen Sentebale, yr elusen a gyd-sefydlodd gyda’r Tywysog Seeiso o Lesotho yn 2006.

Cafodd yr elusen ei sefydlu i anrhydeddu mam y dug, Diana, Tywysoges Cymru, i helpu pobl ifanc a phlant yn Ne Affrica, yn enwedig y rhai sy'n byw gyda HIV ac Aids.

Wrth gyhoeddi eu hymddiswyddiad mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Harry a’r Tywysog Seeiso eu bod wedi camu’n ôl o'u dyletswyddau gyda'r elusen gan ychwanegu bod y berthynas rhwng ymddiriedolwyr Sentebale a chadeirydd y bwrdd “wedi torri i lawr y tu hwnt i allu cael ei hatgyweirio”.

Mae sawl ymddiriedolwr wedi gadael y sefydliad mewn anghydfod gyda chadeirydd y bwrdd, Sophie Chandauka, ar ôl galw am ei hymddiswyddiad.

Mewn cyfweliad gyda’r Financial Times, fe wnaeth Dr Chandauka, sydd wedi bod yn gadeirydd Sentebale ers 2023, amddiffyn ei record yn yr elusen a honni iddi brofi “amharch, bwlio a brawychu” yn ei swydd.

Wrth drafod y Dug, dywedodd: “Y prif risg i’r sefydliad hwn oedd gwenwyndra brand ei brif noddwr.”

Fe wnaeth ffynhonnell sy’n agos at yr ymddiriedolwyr a noddwyr yr elusen wfftio sylwadau Dr Chandauka a'u disgrifio fel “stynt cyhoeddusrwydd”, gan ychwanegu: “Maen nhw’n parhau’n gadarn yn eu hymddiswyddiad, er lles yr elusen.”

Dywedodd y Comisiwn Elusennau ei fod yn “ymwybodol o bryderon am lywodraethu” Sentebale mewn datganiad yn gynharach yr wythnos hon.

“Rydym yn asesu’r materion i benderfynu ar y camau rheoleiddio priodol,” ychwanegodd y comisiwn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.