Newyddion S4C

Dynes wedi marw ar ôl gwrthdrawiad â char oedd yn cael ei ddilyn gan yr heddlu

Heddwas

Mae dynes wedi marw ar ôl bod mewn gwrthdrawiad gyda char oedd yn cael ei ddilyn gan gar heddlu yn Wrecsam nos Lun.

Bu farw’r ddynes 47 oed o ardal Wrecsam yn yr ysbyty ddydd Mercher 26 Mawrth, ar ôl cael anafiadau difrifol yn y digwyddiad yn ardal Hightown rhwng Ffordd Belgrave a Ffordd Percey.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig wedi 21:30 rhwng ceir Mercedes a Toyota - gyda'r Mercedes arian yn cael ei ddilyn ar y pryd gan swyddogion o Heddlu'r Gogledd.

Fe gafodd dyn a’r ddynes 47 oed a oedd yn y Toyota eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol, lle bu farw’r ddynes yn ddiweddarach.

Mae'r dyn yn parhau i dderbyn triniaeth am anafiadau sydd wedi eu disgrifio fel rhai fydd yn newid ei fywyd.

Gadawodd gyrrwr a'r teithwyr oedd yn y Mercedes yr ardal cyn i un gael ei arestio ddydd Iau 27 Mawrth.

Mae’r heddlu’n dal i chwilio am yr ail ddyn a adawodd y safle.

Mae pump o bobl wedi eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, gan gynnwys dyn 22 oed sydd dan amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Cafodd dynes 20 oed, dau ddyn 37 oed, a dyn 50 oed eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Sian Beck: "Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys gyda theulu'r ddynes ar adeg anhygoel o drist ac anodd.

"Rydym yn parhau i ymchwilio er mwyn dod o hyd i'r dyn arall a adawodd y lleoliad, a hoffwn glywed gan unrhyw un sy'n gallu ein cynorthwyo ni gyda'n hymchwiliadau, i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu dal.”

Dywedodd y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda’r heddlu ar 101 neu drwy’r wefan gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 25000244712.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.