Newyddion S4C

Carchar wedi'i ohirio i ddynes o Fôn am esgeuluso merlen

27/03/2025
llys y goron caernarfon.png

Mae ymgynghorydd cadwraeth anifeiliaid o Ynys Môn wedi cael dedfryd o chwe mis o garchar wedi’i ohirio am flwyddyn am esgeuluso merlen oedd yn dioddef o ddiffyg maeth.

Cyfaddefodd Andrea Parry-Jones, 35, o Garreg y Gad, Llanfairpwllgwyngyll, sydd â gradd mewn sŵoleg, iddi achosi dioddefaint diangen i farch o'r enw Ross.

Bydd yn rhaid i'r diffynnydd dalu dirwy o £2,000, ond llwyddodd i beidio cael ei hatal rhag cadw anifeiliaid.

Dywedodd y Barnwr Timothy Petts yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau fod Ross wedi bod yn "dioddef yn sylweddol" a bu'n rhaid iddo gael ei ddifa.

"Mae’n achos lle’r oeddech chi’n darparu rhywfaint o ofal, ond gofal anghymwys," meddai wrth Parry-Jones.

Dywedodd y Barnwr Petts y byddai Parry-Jones yn "annhebygol" o ailadrodd y drosedd.

Ym mis Chwefror y llynedd, dywedodd Simon Rogers ar ran yr erlyniad bod swyddogion safonau masnach wedi ymweld â thyddyn yn Llangaffo, Ynys Môn, lle'r oedd merlen yn ymddangos o dan ei phwysau, gyda briw wedi'i heintio ger ei llygad.

Roedd y gwair wedi llwydo a doedd dim dŵr ar gyfer y merlod.

Dylai perchennog ceffyl cyfrifol fod wedi gofyn am sylw milfeddygol brys i Ross oedd yn dioddef o ddiffyg maeth, ychwanegodd cwnsler.

Dywedodd Richard Edwards, wrth amddiffyn, fod yna edifeirwch gwirioneddol. 

"Arweiniodd y posibilrwydd o waharddiad oes ar gadw anifeiliaid at ymgais i gymryd bywyd ei hun," meddai.

Dywedodd Mr Edwards iddi helpu llawer o bobl eraill i ofalu am eu hanifeiliaid - byddai gorchymyn gwahardd yn ei hatal rhag eu cynorthwyo.

"Byddai’r effaith yn cael ei theimlo ymhell a thu hwnt i’r diffynnydd hwn yn unig," ychwanegodd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.