Newyddion S4C

Dyn yn y ddalfa wedi digwyddiad yng ngwersyll Awyrlu'r Fali

26/03/2025
RAF Ynys Mon

Mae dyn yn y ddalfa wedi iddo gael ei gyhuddo o fygwth trywanu giard yng ngwersyll Awyrlu'r Fali ar Ynys Môn.

Mae David Mottershead, sy'n 44 oed o Fodffordd ar Ynys Môn, ac yn gyn-aelod o'r lluoedd arfog, hefyd wedi ei gyhuddo o fod a chyllell a bwyell yn ei feddiant pan gafodd ei arestio y tu allan i'r gwersyll. 

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o yrru neges yn bygwth niwed difrifol.

Gwnaeth ei gyfreithiwr gais iddo gael ei ryddhau ar fechniaeth, ond cafodd y cais ei wrthod gan farnwr yn llys ynadon Llandudno ddydd Mercher. 

Bydd Mr Mottershead yn cael ei gadw yn y ddalfa hyd nes bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ar Ebrill 28.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.