Arestio pedwar dyn lleol wedi digwyddiad mewn garej ger Caernarfon
Mae pedwar dyn wedi'u harestio yn dilyn adroddiad fod pobl yn ceisio torri mewn i garej mewn pentref ger Caernarfon yng Ngwynedd.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i Garej Gwalia yng Nghaeathro yn ystod oriau mân ddydd Mawrth.
Dywedodd y llu bod swyddogion wedi cyrraedd o fewn munudau, gan arestio pedwar dyn lleol.
"Byddwn yn gofyn i gymdogion fod yn wyliadwrus am weithgarwch amheus ac i adrodd i'r heddlu ar unwaith," meddai llefarydd.
"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â ni, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25000179533."