Carchar i ddyn o Abertawe am ymosodiad 'treisgar' ar fenyw ddieithr
Mae dyn o Abertawe wedi ei garcharu ar ôl ymosodiad "treisgar" ar fenyw ddieithr.
Fe wnaeth Grantham Jones, 37 oed o Fonymaen, ddyrnu wyneb y ddioddefwraig sawl tro yn ystod y digwyddiad ym Monymaen.
Fe ddaeth yr ymosodiad i ben pan lwyddodd y fenyw i redeg i ffwrdd.
Ceisiodd pobl a oedd yn gysylltiedig â Jones i ddychryn y tyst yn ddiweddarach, er mwyn ceisio ei gorfodi i dynnu ei hadroddiad o'r digwyddiad i'r heddlu yn ôl.
Cafodd Jones ddedfryd o 12 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Mark Kayes: “Roedd Grantham Jones yn amlwg yn mwynhau bod yn dreisgar tuag at ddioddefwraig ddiniwed.
“Mae ei weithredoedd yn dangos ei fod yn amlwg yn berygl i eraill, a dyw hi ond yn iawn ei fod nawr yn dechrau cyfnod yn y carchar.”
Llun: Heddlu De Cymru