Newyddion S4C

'Mulod arian': Rhybudd i bobl yn Llanelli am rannu eu cyfrifon banc â thwyllwyr

24/03/2025
llanelli.png

Mae dros 120 o bobl sy’n byw yn ardal Llanelli wedi trosglwyddo eu manylion banc personol i droseddwyr sy’n gysylltiedig â gwyngalchu arian am roddion ariannol. 

Daeth swyddogion Tîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed-Powys ar draws yr unigolion fel rhan o ymchwiliad troseddol, gan gyhoeddi hysbysiadau yn eu cynghori i stopio’r gweithgarwch yn syth neu wynebu erlyniad. 

Roedd yr unigolion wedi agor cyfrifon banc ar-lein gan ddefnyddio eu gwybodaeth bersonol a’u prawf adnabod ac wedi rhoi’r manylion ar gyfer mewngofnodi i’w cyfrifon i droseddwyr yn gyfnewid am arian. 

Yna, defnyddiodd y troseddwyr eu cyfrifon banc i wyngalchu arian oedd wedi ei gael drwy droseddu.

Cynigiodd y tîm gyngor diogelu a’u rhybuddio am beryglon agor cyfrifon banc i gael eu defnyddio gan rywun arall ar gyfer gweithgarwch troseddol, meddai'r heddlu. 

Rhoddwyd rhoddion ariannol o £50 i £200 i rai, tra bod arian wedi’i addo i eraill, ond nid oeddynt wedi derbyn ceiniog. 

Twyllwyr

Dywedodd Siân Stevens, Ymchwilydd Twyll Heddlu Dyfed-Powys: “Drwy gudd-wybodaeth, cawsom wybod am dwyllwr a recriwtiodd nifer o bobl yn ardal Llanelli i agor cyfrifon banc, a gafodd eu defnyddio wedyn ar gyfer dibenion gwyngalchu arian. 

“Ymwelodd y Tîm Troseddau Economaidd â dros 120 o unigolion ym mis Chwefror i esbonio eu bod wedi cael eu defnyddio fel mul arian – rhywun sydd wedi caniatáu i’w gyfrif banc gael ei ddefnyddio i anfon arian troseddol yw hwn. Rhoddom hysbysiad ymatal iddynt i ymyrryd ag unrhyw dwyll pellach drwy sicrhau eu bod yn ymwybodol bod yr hyn yr oeddent yn ei wneud yn weithgarwch troseddol. 

“Roedd llawer o’r bobl yn gysylltiedig â’i gilydd. Roedd rhai’n aelodau teulu neu yn yr un grŵp ffrindiau, yn amrywio o oedolion ifainc i bensiynwyr. Roedd y cyfrifon wedi’u hagor yn dilyn cysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol â’r twyllwr. 

“Er enghraifft, roedd rhai achosion lle’r oedd unigolyn wedi agor cyfrif banc yn dilyn cysylltiad â’r twyllwr, ac yna aeth ymlaen i ddweud wrth ei ffrindiau, 'Gallwch chi ennill £50 os agorwch chi gyfrif banc a rhoi’r manylion i’r unigolyn hwn,' ac ati. Dyma un o nifer o enghreifftiau o sut y llwyddodd y twyllwr i gael manylion banc personol.” 

'Dioddef yn enbyd'

Dywedodd Paul Callard, Rheolwr Tîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed-Powys: “Mae pobl yn dioddef twyll bob dydd, a gall yr effaith ar ddioddefwyr fod yn enbyd, yn ariannol ac yn emosiynol.

“Gall troseddwyr gymryd mantais ohonynt a’u hannog i adael i’w cyfrifon gael eu defnyddio. Dylai pobl fod yn ofalus iawn pwy maen nhw’n rhoi eu gwybodaeth bersonol iddynt.

“Ni fyddwn ni’n dioddef gweithgarwch twyllodrus a byddwn ni’n edrych ar fynd i’r afael â throseddwyr ar bob cyfle.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.