Newyddion S4C

Rhybudd i ffermwyr wedi'r achos cyntaf o ffliw'r adar mewn dafad

dafad

Mae'r achos cyntaf o ffliw'r adar wedi ei gofnodi mewn dafad, a hynny ar fferm yn Sir Efrog.  

Un ddafad gafodd ei heintio, a chafodd y ffliw H5N1 ei ddarganfod wrth i dda byw ar y fferm gael eu harchwilio.  

Cafodd y gwaith hwnnw ei gynnal am fod y ffliw wedi ymledu mewn gwartheg godro yn America.   

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, cafodd y ddafad ei difa, a does dim arwyddion o ffliw'r adar yng ngweddill y ddiadell.

Dyma'r tro cyntaf i'r feirws gael ei gofnodi mewn dafad, ond yn ôl swyddogion, mae ffliw'r adar wedi ei ddarganfod ymhlith da byw eraill mewn gwledydd eraill. 

Maen nhw'n pwysleisio nad yw hyn yn peri risg uwch i anifeiliaid fferm y DU. 

Ond mae'r awdurdodau'n galw ar ffermwyr a'r rhai sy'n cadw da byw i fod ar eu gwyliadwraeth, gan sicrhau fod ganddyn nhw fesurau glendid a bioddiogelwch cadarn yn eu lle, er mwyn gwarchod eu creaduriaid ac atal yr haint rhag ymledu.    

Mae Cymdeithas Ddefaid yr NSA yn pwysleisio mai achos unigol yw hwn ac nad oes perygl i'r gadwyn fwyd.  

Llun Llyfrgell 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.