Newyddion S4C

‘Dim ond Plaid Cymru all atal Reform UK’ medd AS

22/03/2025

‘Dim ond Plaid Cymru all atal Reform UK’ medd AS

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi dweud mai dim ond ei phlaid hi all atal Reform UK rhag ennill etholiad Senedd 2026.

Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, bod Llywodraeth Lafur Cymru yn “rhy wan, yn rhy hunanfodlon” i atal plaid Nigel Farage.

“Dim ond Plaid Cymru all wneud hynny,” meddai ar ail ddiwrnod cynhadledd wanwyn Plaid Cymru yn Llandudno.

“Os na fyddwn ni - Plaid Cymru - yn rhoi atebion i fethiannau Llafur, bydd rhywbeth gwaeth yn cymryd eu lle."

Ychwanegodd bod Reform yn “ffynnu ar rannu pobl”.

"Byddan nhw'n ymosod ar ein hiaith. Byddan nhw'n tanseilio ein hunaniaeth ac yn troi cymydog yn erbyn cymydog, oherwydd dyna mae casineb gwleidyddol yn ei wneud iddyn nhw.”

Roedd arolwg barn gan YouGov ym mis Tachwedd yn awgrymu bod Plaid Cymru ar 23%, a Reform a Llafur ill dwy ar 23%.

‘Ideolegol’

Roedd Liz Saville Roberts yn feirniadol hefyd o ddewisiadau ariannol y Blaid Lafur cyn datganiad y gwanwyn Canghellor Tryslorys y DU, Rachel Reeves, yr wythnos nesaf.

Byddai Plaid Cymru yn torri cyfraddau treth ar gyfer adwerthwyr bach, tafarndai a bwytai, meddai’r blaid.

Ond roedd Llafur yn dewis cosbi’r bregus wrth amddiffyn y cyfoethog, meddai Liz Saville Roberts.

“Maen nhw’n dal i gael eu dal gan feddylfryd hen-ffasiwn y Trysorlys,” meddai.

“Maent yn glynu wrth reolau cyllidol ideolegol sy’n gwasanaethu’r elît ariannol wrth adael pobl gyffredin ar ôl.”

Wrth siarad ddydd Sadwrn dywedodd y Canghellor Rachel Reeves ei bod hi wedi diystyru polisïau “trethu a gwario” cyn datganiad y gwanwyn yr wythnos nesaf.

“Allwn ni ddim trethu a gwario ein ffordd i safonau byw uwch a gwasanaethau cyhoeddus gwell. Dyw hynny ddim ar gael yn y byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.