Ynys Môn: Cynghorwyr yn amddiffyn codiadau cyflog wedi beirniadaeth 'ffiaidd'
Mae cynghorwyr ar Ynys Môn wedi taro’n ôl yn erbyn beirniadaeth “annheg” o godiad yn eu cyflog gydag un yn pryderu y gallent gael eu “targedu’n gorfforol”.
Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol [IRPW] wedi gosod cyfraddau cyflog 2025/26 ar gyfer cynghorwyr ar ynys, ac mae arweinydd yr awdurdod, y Cynghorydd Gary Pritchard, yn cael codiad cyflog o £59,498 i £63,020.
Yn ystod cyfarfod ddydd Mercher, dywedodd y cynghorwyr bod y feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn “annheg”, gan ddisgrifio adroddiadau yn y cyfryngau am y ddogfen gyhoeddus fel rhai “anghyfrifol”.
Dywedodd aelodau’r pwyllgor fod y cyhoedd yn “camddeall” rôl cynghorwyr, gydag un yn dadlau bod y “cyflogau yn llai nag y byddech chi’n ei ennill yn Tesco neu Morrisons”.
Dywedodd yr aelodau eu bod yn gweithio'n galed, yn aml "y tu allan i oriau gwaith".
Dywedon nhw eu bod yn ofni y gallai sylwadau “negyddol” atal pobol rhag dod yn gynghorwyr oherwydd ofnau am gamdriniaeth.
Mae disgwyl i'r codiad cyflog i'r cynghorwyr fod yn weithredol o fis Ebrill ymlaen.
'Annibynnol'
Dywedodd y Cynghorydd Ken Taylor: “Rydym wedi gweld sylwadau difrïol yn cael eu gwneud am y cyngor ar gyfryngau cymdeithasol ac am gynghorwyr a’r cyngor yn gyffredinol. Mae yna ddiffyg dealltwriaeth.
“Maen nhw’n meddwl mai’r cyngor sy’n pennu’r cyflogau, ond mae’n cael ei wneud gan banel annibynnol, nid yw’n ddim i’w wneud â ni.
“Dangoswch i mi unrhyw berson neu broffesiwn sy’n gwrthod codiad cyflog, nid yw hynny’n digwydd.”
Fe gyhuddodd y cyfryngau hefyd o “dargedu” unigolion a Chyngor Môn a dywedodd fod adrodd ar y ffigyrau, a gyhoeddwyd ar wefan Cyngor Môn, yn enghraifft o “newyddiaduraeth anghyfrifol”.
Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees ei fod yn “siomedig” bod trefniadau’n cael eu gwneud gyda’r heddlu i ddarparu hyfforddiant i aelodau ar ddiogelwch.
Dywedodd fod cannoedd o sylwadau wedi’u gadael ar gyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â’r codiadau cyflog, a bod “y rhan fwyaf yn negyddol a’r rhan fwyaf yn angharedig iawn”.
Dywedodd fod cyflogau cynghorwyr Ynys Môn a Sir Ddinbych “ymhlith yr isaf” yng Ngogledd Cymru.
Ychwanegodd: “Mae rhai yn dweud ein bod yn darparu gwasanaeth gwael, ond Ynys Môn yw un o’r awdurdodau lleol sy’n perfformio orau a sy’n cael ei ganmol gan gyrff annibynnol.
“Yr hyn sy’n fy mhoeni, rydw i’n eithaf blin a siomedig mewn gwirionedd, yw os yw pobl yn mynd i ymosod arnom fel hyn, heb reswm, mae perygl y bydd pobl yn mynd dros ben llestri ac yn ein targedu ni’n gorfforol.
“Pwy fyddai eisiau rhoi eu hunain ymlaen i fod yn gynghorydd i dderbyn camdriniaeth fel hyn?”