Newyddion S4C

Cais am bum tŷ fforddiadwy ger cartref David Lloyd George

22/03/2025
Llanystumdwy

Mae pum “cartref fforddiadwy” ar y gweill ger y cartref lle y cafodd y cyn-brif weinidog David Lloyd George ei fagu.

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cynnig i godi tai ar dir ger Maes Llwyd y tu ôl i dafarn gymunedol Tafarn y Plu yn Llanystunmdwy.

Mae’r cynigion yn cynnwys gwaith i wneud ffordd fynediad, tirlunio a draen.

Mae'r safle ryw 50 metr o Amgueddfa Lloyd George, sy'n cynnwys Highgate, sef cyn-gartref y Prif Weinidog.

Gwleidydd Rhyddfrydol oedd Lloyd George ac roedd mewn grym rhwng 1916 a 1922.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf roedd wedi addo “cartrefi sy’n addas i arwyr” (‘homes fit for heroes’) a chafodd y Ddeddf tai ei phasio’n 1919, gan arwain yn y pen draw at sefydlu tai cyngor.

Mae’r cais yn rhan o gynllun Tŷ Gwynedd y cyngor sydd yn gobeithio creu cartrefi fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy ac ynni-effeithlon i bobl leol.

Byddai’r cartrefi’n cael eu datblygu a’u gwerthu ar sail model rhannu ecwiti i ddarparu cartrefi “fforddiadwy”.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys un tŷ dwy ystafell wely, tri thŷ tair ystafell wely, ac un tŷ tair ystafell wely gyda garej.

Y bwriad ydi i bob tŷ gael dau le parcio i’r blaen neu i’r ochr, gyda rhan fechan o ardd flaen ac ochr, gyda’r brif ardd yn y cefn.

Mae dau le parcio i ymwelwyr wedi'u cynnwys ar ddiwedd ffordd fynediad fewnol arfaethedig. Mae'r safle yn cynnwys un darn o dir i'r gorllewin o'r stad breswyl bresennol sy’n cael ei alw’n Maes Llwyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.