Newyddion S4C

Tynnu tiwmor ar yr ymennydd 'y peth anoddaf erioed' medd Davina McCall

22/03/2025
Davina McCall

Mae'r cyflwynydd teledu, Davina McCall, wedi dweud mai tynnu tiwmor ar yr ymennydd oedd “y peth anoddaf i mi fod drwyddo erioed” wrth fyfyrio ar y profiad yn ystod Diwrnod y Trwynau Coch.

Cafodd y Davina McCall, 57 oed, lawdriniaeth y llynedd i dynnu tiwmor anfalaen (benign), sy’n cael ei alw’n goden coloidaidd (colloid cyst).

Cafodd y tiwmor ei ddarganfod ar ddamwain ar ôl iddi gael cynnig archwiliad iechyd fel rhan o’i gwaith i godi ymwybyddiaeth ar gyfer y menopos.

Roedd McCall ynghanol llu o gyflwynwyr ar gyfer Red Nose Day ddydd Gwener, gyda’r digwyddiad yn codi £34,022,590 i’r elusen Comic Relief.

Wrth siarad ar y rhaglen, dywedodd McCall: “Cefais flwyddyn eithaf gwallgof eleni.”

“Daeth meddygon o hyd i diwmor ar yr ymennydd, ar ddamwain, ac ar ôl llawer o drafod, cefais ei dynnu.”

Dywedodd mai dyma o bosib oedd y “peth anoddaf” iddi fod drwyddo, a bod y profiad cyfan yn “rhyfedd iawn”.

“O bwyso a mesur yr holl risgiau a’r holl bethau cadarnhaol am gael gwared â’r tiwmor hwn, mae wedi gwneud i mi feddwl yn ddwys am beth yw bywyd, a beth sy’n wirioneddol bwysig pan fydd pethau’n mynd yn anodd," meddai.

Dechreuodd grio wrth sôn am y gefnogaeth y mae wedi ei gael gan ei theulu a’i phartner, Michael Douglas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.