Newyddion S4C

'Diwrnod arferol': Heathrow yn ail agor i deithwyr ar ôl toriad trydan

Heathrow

Mae awyrennau’n cario teithwyr wedi dechrau glanio yn Heathrow unwaith eto ddydd Sadwrn ar ôl i’r maes awyr orfod cau oherwydd colli trydan ddydd Gwener.

Roedd tân wedi difrodi isbwerdy yn Hayes toc cyn hanner nos ddydd Iau. Dywedodd Heddlu’r Met nad oedd y tân yn un amheus.

Dywedodd prif weithredwr Maes Awyr Heathrow, Thomas Woldbye, wrth ohebwyr brynhawn Gwener ei fod yn “disgwyl bod yn ôl yn gweithredu fel diwrnod arferol yfory”.

“Dylai (teithwyr) ddod i’r maes awyr fel y byddent yn gwneud fel arfer. Does dim rheswm i ddod yn gynt.”

Mae gwefan Flightradar24 yn dangos bod yr awyren gyntaf gyda theithwyr ynddi ers pnawn ddydd Iau wedi glanio am 4.37 ddydd Sadwrn.

Dywedodd cwmni BA ei fod yn disgwyl y bydd tua 85% o'i deithiau yn weithredol y maes awyr ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd: “Mae ailddechrau ar ôl digwyddiad mor sylweddol yn hynod gymhleth.

“Mae’n debygol y bydd pob cwsmer sy’n teithio yn profi rywfaint o oedi wrth i ni barhau i ymdopi â’r heriau a ddaw yn sgil y toriad pŵer yn y maes awyr ddydd Gwener.”

Yn y cyfamser mae cwestiynau wedi codi am sut yr achosodd un tân cymaint o oedi.

Dywedodd cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies ei fod yn “destun pryder mawr fod tân mewn un is-orsaf fach wedi dod â maes awyr mwyaf y wlad i stop”.

“Mae Heathrow yn hanfodol i economi Cymru. Mae angen cynllun wrth gefn.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Heidi Alexander ei bod mewn cysylltiad agos â’r Ysgrifennydd Ynni, yr Ysgrifennydd Cartref a Heathrow i “wneud yn siŵr bod unrhyw wersi sydd angen i ni eu dysgu o’r systemau sydd gan y maes awyr yn eu lle yn cael eu dysgu”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.