Newyddion S4C

Achos Mike O’Leary: Ymchwilio llofruddiaeth heb gorff

ITV Cymru 29/07/2021
Mike O'Leary

Ar y noson aeth Mike O'Leary ar goll ym mis Ionawr 2020, derbyniodd ei deulu neges destun o'i ffôn. Dywedodd y neges: "I'm sorry x".

O'r eiliad honno, roedd Wayne, mab hynaf Mike yn gwybod fod rhywbeth o’i le.

"Roedd Dad yn Gymro balch. Doeddwn i ddim yn credu am funud y byddai'n anfon neges fel 'na yn Saesneg - yn enwedig os mai hon oedd y neges olaf yr oedd am ei hanfon erioed,” meddai Wayne.

O ganlyniad i’r neges destun, fe wnaeth yr ymchwiliad i’r llofruddiaeth droi’n un cymhleth a heriol. Bu'n rhaid i’r heddlu dyrchu trwy filoedd o oriau o luniau cylch cyfyng yn y gobaith o ddod o hyd i un darn hanfodol o dystiolaeth.

Er bod lluniau cylch cyfyng wedi arwain at roi dyn dan amheuaeth, roedd Mike O'Leary yn dal i fod ar goll.

Image
Fforensig

Yn y dyddiau ar ôl i Mr O’Leary gael ei gofnodi fel un oedd ar goll, doedd dal dim unrhyw arwydd ohono ac fe dyfodd pryderon yr heddlu am ei les.

Fe wnaeth ffôn gwaith Mr O’Leary arwain y tîm at hen fferm leol a oedd yn eiddo i un o’i ffrindiau, sef Andrew Jones. Trodd sylw'r ditectifs ato Mr Jones, ond yn ôl y Ditectif Prif Arolygydd Paul Jones, roedd yn hunllef i ymchwilio i'w gefndir.

“Yn gyntaf oll, mae’n rhywun heb unrhyw euogfarnau blaenorol sy’ byth yn dod i sylw’r heddlu, ar wahân ei fod yn ddyn busnes llwyddiannus iawn."

"Ond mae'n adeiladwr, mae ganddo fynediad at beiriannau, mynediad i safleoedd adeiladu parhaus, gwaith adeiladu, sylfeini, mae'n debyg mai ei allu i waredu corff yw'r un anoddaf i ymchwilio iddo."

Fe wnaeth y tîm gychwyn ymchwilio i dir a nifer o adeiladau ar y fferm, wrth iddynt chwilio am gliwiau. O fewn dim, fe wnaeth ci'r heddlu ddarganfod ddau fotwm crys mewn cerrig ac fe gafwyd hyd i olion gwaed yn dilyn ymchwiliad pellach.

Roedd y gwaed yn anweledig i'r llygad, ond profodd dadansoddiad DNA mai gwaed Mike oedd y gwaed dan sylw.

Cyfaddefodd Andrew Jones ei fod wedi cwrdd â Mike O'Leary y noson aeth ar goll, ac mae fo oedd y person olaf i'w weld.

Ond heb gorff, doedd ditectifs methu profi bod Mike wedi marw - ac yn methu â chyhuddo Andrew Jones o lofruddiaeth.

Image
Heddlu

Ar ôl i swyddogion ddechrau edrych drwy fwy o ddeunydd camera cylch cyfyng yn y gobaith o ddod o hyd i dystiolaeth bellach, fe wnaethon nhw ddarganfod lluniau o lori Mike yn cael ei gyrru i ochr afon gyda data ffôn symudol yn awgrymu mai Andrew Jones oedd tu ôl i'r olwyn.

O fewn ychydig, fe wnaeth deunydd camera cylch cyfyng ddangos beiciwr yn gwneud y siwrnai yn ôl i gyfeiriad y fferm. Roedd ditectifs yn siŵr mai Andrew Jones oedd ar y beic ar ôl iddo adael lori ei ffrind wedi'r llofruddiaeth.

Dywedodd DCI Jones ar y pryd: “Nid ydym wedi dod o hyd i Mike, nid ydym wedi clymu llawer o bennau rhydd o hyd...mae cymaint mwy i'w wneud. "

Ynghyd â chyfyngiadau coronafeirws a storm ddinistriol, roedd y saith mis nesaf yn amser heriol i dîm yr heddlu wrth iddynt chwilio degau o erwau o dir a 70 tunnell o rwbel o iard Jones wrth geisio darganfod mwy o dystiolaeth.

“Doedd neb yn gallu cofio unrhyw beth tebyg yn ystod eu hamser yn yr heddlu, ond roedd un peth yn sicr - nid oedd unrhyw beth yn mynd i atal yr ymchwiliad hwn.

“Roedd y tîm yn benderfynol eu bod yn mynd i wneud popeth o fewn eu gallu i roi atebion i’r teulu ac nid oedd Covid-19 yn mynd i’n hatal, ” meddai Llŷr Williams, Dirprwy SIO ar yr ymchwiliad.

Cafodd tîm rhagleni dogfen ITV Cymru fynediad egsgliwsif i dapiau o Andrew Jones yn cael ei holi gan dditectifs, lle mae’n gwrthod datgelu’r hyn y mae wedi’i wneud gyda chorff Mike gan ddweud:“Rwyf am fynd adref i weld fy nheulu dyna i gyd.”

“Fyddwn ni byth yn gwybod yn union beth mae wedi ei wneud gyda Dad - mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n meddwl amdano trwy'r amser,” meddai Wayne O’Leary, mab Mike.

“Beth wnaeth i Dad, does dim ffordd o ddadwneud yr hyn a wnaeth - does dim geiriau...”

Bydd No Body Recovered yn cael ei ddarlledu am 21:00 nos Iau ar ITV, gyda'r rhaglen hefyd ar gael ar alw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.