Newyddion S4C

Athletau: Cymro ymhlith y ffefrynnau i ennill pencampwriaeth y byd

21/03/2025
Jeremiah Azu

Mae’r Cymro Jeremiah Azu yn un o’r ffefrynnau am fedal aur ym mhencampwriaethau athletau dan do y byd dros y penwythnos.

Mae Azu, 23 oed o Gaerdydd, yn cystadlu yn y ras 60 metr i ddynion yn Nanjing, Tsieina ddydd Gwener.

Mae Azu yn llawn hyder ar ôl iddo gipio’r fedal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop yn yr Iseldiroedd yn gynharach yn y mis.

Chafodd Azu fawr o gyfle i ddathlu gan ei fod wedi dod yn dad ychydig ddiwrnodau ynghynt.

Dywedodd fod ei batrwm cwsg wedi ei amharu a’i fod wedi mynd o fod yn “Frenin Ewrop yn syth i’r cewynnau”.

Azu yw’r cyflymaf dros y 60 metr yn y byd eleni ac mae'n llawn hyder. Mae ei obeithion wedi cryfhau gan nad yw enwau mawr fel Christian Coleman a Noah Lyles o’r Unol Daleithiau yn cystadlu.

Dywedodd Azu: “Rydw i bob amser yn mynd i mewn i bopeth yn meddwl y gallaf ennill.

"Rwy'n dod i mewn gyda'r amser cyflymaf, felly mae'n debyg bod yna ymdeimlad o bwysau, ond dwi'n teimlo fel yna. 

“Rwy'n meddwl fy mod i'n bendant yn gallu gwneud rhywbeth arbennig, felly dydw i ddim yn gweld pam na allaf gerdded i ffwrdd gyda'r aur."

“Rwy’n gwneud hyn ar gyfer fy mhlentyn, rwy’n gwneud hyn ar gyfer fy mhartner, rwy’n gwneud hyn ar gyfer darn ohonom. 

“Ond am ryw reswm mae hynny newydd wneud pethau’n haws. Nid wyf yn siŵr beth yw e. Gallafi ddim ei egluro o hyd mewn gwirionedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.