Newyddion S4C

'Trin fel Hannibal Lecter': Tad yn trafod 'trawma' ei ferch mewn canolfan i fudwyr yn America

20/03/2025
Rebecca Burke
Rebecca Burke

Mae tad i Gymraes ifanc a gafodd ei chadw'n gaeth mewn canolfan i fudwyr yn America am bron i dair wythnos wedi rhybuddio twristiaid i wirio eu fisas er mwyn osgoi'r "trawma" profodd ei ferch.

Cafodd Rebecca Burke o Sir Fynwy ei chadw'n gaeth am 19 diwrnod tra'n teithio o gwmpas America.

Fe wnaeth hi ddychwelyd i'r DU ddydd Mawrth wedi iddi gael ei ryddhau, gyda'i theulu a ffrindiau yn aros amdani ym maes awyr Heathrow.

Dywedodd ei thad, Paul Burke y bydd y profiad yn newid ei deulu.

"Dwi'n meddwl bydd y profiad hwn yn newid ni i gyd," meddai wrth Asiantaeth Newyddion PA.

"Dydw i ddim yn credu gallai ddweud wrth unrhyw un 'dyna ni, mae hi adref, gallwn gloi'r drws ac mae hyn wedi mynd i ffwrdd.'

"Bydd hwn byth yn mynd i ffwrdd, ac rydym ni eisiau rhybuddio pobl ifanc eraill, ac unrhyw un sydd yn bwriadu teithio i America i fod yn hynod ofalus a gwrio a gwirio eto gofynion eu fisas."

'Trin fel Hannibal Lecter'

Cafodd Miss Burke ei gwrthod rhag cael mynediad i dalaith Washington.

Roedd hi'n ceisio teithio yno wedi iddi geisio cael mynediad i Ganada.

Roedd ganddi gynlluniau i aros gyda theulu lle byddai wedi gweithio yn glanhau'r tŷ am lety.

Fe wnaeth hi gais am fisa twristiaid, yn hytrach na fisa gwaith.

Cyn hynny roedd hi'n aros gyda theulu yn Portland o dan amodau tebyg, wedi iddi dreulio cyfnod yn Efrog Newydd ar ddechrau 2025.

“Hyd yn oed gyda rhywun mor ofalus, roedd hi yn y ddalfa am 19 diwrnod,” meddai ei thad.

“Os ydych chi’n mynd i America am unrhyw beth heblaw gwyliau arferol, byddwn yn ysgrifennu at lysgenhadaeth America, yn dweud wrthyn nhw pa fisas rydych chi’n meddwl sydd angen arnoch chi ac yn mynnu eu bod nhw'n ysgrifennu yn ôl i gadarnhau ie neu na, ac yna cario’r llythyr hwnnw gyda chi.”

Ychwanegodd Mr Burke nad oedd ef a'i wraig, Andrea, yn gwybod bod eu merch yn dod adref nes iddi gerdded trwy'r giât cyrraedd yn Heathrow, a dim ond yn gwybod ei bod wedi gadael y ganolfan cadw oherwydd bod carcharor arall wedi eu galw.

“Fe aethon nhw â hi o’r ganolfan gadw i’r maes awyr, dywedodd Becky wrthym ei bod mewn cadwyni coesau, cadwyni gwasg a gefynnau (handcuffs).

“Rydyn ni'n meddwl bod hynny'n hollol ffiaidd, beth ar y ddaear roedden nhw'n meddwl roedd hi'n mynd i'w wneud?

“Pa asesiad risg wnaethon nhw i ddweud bod angen iddi gael ei thrin fel Hannibal Lecter?”

'Awr o oleuni y dydd'

Dywedodd Paul Burke nad oedd ei ferch, sy'n fegan, wedi'i bwydo'n iawn yn y ganolfan cadw, gan fyw'n bennaf ar reis, tatws a ffa.

Arhosodd hi ar wely bync mewn ystafell gysgu fawr gyda dim ond awr y diwrnod y tu allan yn cael ei chaniatáu.

I ymdopi, trodd Ms Burke at gelf a chafodd gefnogaeth y carcharorion eraill a helpodd i'w chadw i fynd.

Mae’n gobeithio creu nofel graffig o’i phrofiadau, gyda thua 80 tudalen o luniadau o’i chyfnod yn y ddalfa.

Diolchodd i ffrindiau a dieithriaid am eu cefnogaeth.

Mewn datganiad i’r BBC, dywedodd Canolfan Brosesu ICE Northwest: “Gall pob estron sy’n torri cyfraith mewnfudo America gael ei arestio, ei gadw ac, mewn rhai achosion, ei symud o’r Unol Daleithiau beth bynnag yw ei genedligrwydd.”

Dywedodd y datganiad fod carcharu Rebecca Burke “yn ymwneud â thorri amodau a thelerau ei derbyn i'r wlad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.