Nifer uchaf erioed o wartheg wedi’u lladd oherwydd TB yng Nghymru yn 2024
Mae ffigurau “sobr” newydd sy’n cofnodi'r nifer uchaf erioed o wartheg wedi eu lladd yng Nghymru y llynedd oherwydd TB yn dangos yr angen am newid strategaeth meddai NFU Cymru.
Mae'r ystadegau diweddaraf gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) Llywodraeth y DU yn dangos bod nifer y gwartheg a gafodd eu lladd oherwydd TB (bovine tuberculosis) yn 2024 yng Nghymru wedi cynyddu 27% ers y flwyddyn gynt.
Cafodd dros 13,000 o wartheg eu lladd ar draws Cymru yn 2024, a dyma’r nifer fwyaf erioed i gael eu difa oherwydd TB dros gyfnod o 12 mis.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bo nhw'n "benderfynol o ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru, ac yn cydnabod yr effaith ar ffermydd, ffermwyr a'u teuluoedd".
Mae’r clefyd yn cael ei ddarganfod un ai ar ffermydd drwy brofion croen gorfodol a rheolaidd ar fuchesi gwartheg, neu mewn lladd-dai drwy archwiliad post-mortem o garcasau gwartheg.
Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd y Llywodraeth bolisi newydd a fyddai’n gorfodi ffermwyr i brofi’u gwartheg cyn eu symud o ardal risg-isel yng Nhgymru, yn ogystal â’u profi ar ôl eu symud i ardaloedd risg ganolradd o ardaloedd risg uwch.
Nod Llywodraeth Cymru yw bod yn wlad heb TB erbyn 2041.
'Newid ystyrlon'
Mae NFU Cymru wedi dweud y bydden nhw’n parhau i lobïo Llywodraeth Cymru am “newid ystyrlon” a strategaeth “gynhwysfawr” sy’n mynd i’r afael â TB buchol ar draws y wlad.
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones, bod yr ystadegau diweddaraf hyn yn “rhoi darlun sobr o’r ing llwyr sy’n cael ei brofi gan deuluoedd ffermio ledled y wlad.”
“Mae’r creithiau sy’n cael eu gadael ar ôl gan TB mewn gwartheg yn sylweddol ac i’w gweld yn rhedeg yn ddwfn ar draws diwydiant gwartheg Cymru.
“Ni allwn barhau i ladd cymaint â hyn o wartheg bob blwyddyn oherwydd y clefyd hwn ac os yw’r genhedlaeth nesaf am gael unrhyw obaith o ffermio yng Nghymru heb fygythiad TB, yna mae angen i rywbeth newid," meddai.
Ychwanegodd bod yr ystadegau yn pwysleisio pa mor bwysig yw gwaith Bwrdd Rhaglen TB cymharol newydd Llywodraeth Cymru a’r Grŵp Cynghori Technegol i ffermwyr yng Nghymru.
“Mae NFU Cymru yn croesawu’r cyfle i eistedd o amgylch y bwrdd gyda milfeddygon, Llywodraeth Cymru ac APHA i drafod ein hymagwedd at bolisi TB a byddwn yn parhau i ddefnyddio ein sedd ar fwrdd y rhaglen i wthio am newid ystyrlon yn gyflym.” meddai Mr Jones.
“Rydym yn gwerthfawrogi’r angen am amynedd wrth ganiatáu amser i’r strwythurau hyn wneud eu gwaith, ond ni allwn golli golwg ar y busnesau fferm ledled Cymru sy’n parhau i ddioddef oherwydd y clefyd hwn.”
'Cynllun gwaith blaengar'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn benderfynol o ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru, ac yn cydnabod yr effaith ar ffermydd, ffermwyr a'u teuluoedd.”
"Rydym wedi gwrando ar y pryderon a godwyd am wahanol agweddau ar TB mewn gwartheg a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r diwydiant, fel y nodir yn ein Cynllun Cyflawni 5 mlynedd.”
“Mae'r Bwrdd Rhaglen TB newydd, dan arweiniad ffermwyr, bellach ar waith, ac mae'r ddau grŵp ar hyn o bryd yn ystyried cynllun gwaith blaengar ac yn awyddus i ystyried pob agwedd."
Mae’r duedd gyffredinol ar gyfer y gwartheg sy’n cael eu lladd oherwydd rheolaeth TB yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae llawer o’r cynnydd ers 2014 i’w briodoli i ddefnydd cynyddol o brofion sensitifrwydd uchel, megis y prawf gwaed gama interferon.
Mae defnyddio’r prawf gama ochr yn ochr â’r prawf croen yn anelu i roi canlyniadau fwy cynhwysfawr, gyda’r nod yn y pen draw o leihau’r heintiau a lleihau’r risg o ledaenu’r clefyd.
“Er mai bwriad yr ymdrechion hyn yw lleihau heintiau yn y tymor hir, gallant arwain at fwy o ladd wrth i heintiau nas canfuwyd yn flaenorol ddod i'r amlwg,” meddai Llywodraeth Cymru.