Newyddion S4C

Y Seintiau Newydd yn dal i aros am daliad $150,000 am Brad Young

20/03/2025
Brad Young

Mae'r Seintiau Newydd yn dweud eu bod yn dal yn aros am daliad $150,000 am Brad Young gan glwb yn Saudi Arabia chwe mis ers iddo arwyddo iddynt.

Fe adawodd Young y Seintiau ym mis Medi i arwyddo i glwb Al-Orobah gyda ffi trosglwyddo o $150,000 a llog o 5%, record i chwaraewr yn y Cymru Premier.

Roedd gan Al-Orobah 45 diwrnod i wneud y taliad, ond mae'r clwb dal heb dalu ceiniog i'r Seintiau Newydd.

Bellach mae FIFA wedi gwahardd Al-Orobah rhag cofrestru chwaraewyr newydd o dramor.

'Methiant'

Mae Mike Harris, Cadeirydd y Seintiau Newydd yn annog clybiau i beidio gwerthu eu chwaraewyr i glybiau yn Saudi Arabia gan "nad oes modd ymddiried ynddynt."

"Rydym yn diolch i FIFA am eu gwaith parhau i sicrhau bod Al-Orobah yn cwrdd â goblygiadau eu cytundeb," meddai.

"Fel clwb, byddwn yn parhau i archwilio pob ffordd posib i sicrhau bod y ffi trosglwyddo sy'n ddyledus i ni, yn cael ei dderbyn.

"Mae methiant Al-Orobah i weithredu, er gwaethaf trafodaethau yn y gorffennol gyda FIFA, yn dystiolaeth bellach nad oes modd ymddiried yn y Saudi Pro League, a byddwn yn awgrymu eraill i beidio cynnal busnes gyda'u clybiau."

Brad Young oedd prif sgoriwr y Cymru Premier JD y tymor diwethaf, gan sgorio 29 o goliau mewn 35 ymddangosiad.

Ers arwyddo i Al-Orobah mae wedi sgorio dwywaith mewn 14 ymddangosiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.