Newyddion S4C

Trafod côd ymddygiad a gwisg newydd i yrwyr tacsi Cymru

19/03/2025
Tacsi

Gallai gyrwyr tacsi hacni a hurio preifat yng Nghymru gael rhybuddion ysgrifenedig os nad ydyn nhw'n cyrraedd safonau gwisg o dan ddeddfau trwyddedu newydd.

Os bydd rheolau newydd yn cael eu mabwysiadu, gallai gyrwyr gael eu disgyblu os y byddan nhw'n gwisgo dillad budur, siorts uwchben y pen-glin neu fflip fflops.

Yn ôl y safonau newydd, bydd rhaid i bob dilledyn fod yn lân, mewn cyflwr da a heb eu difrodi, rhaid i esgidiau ffitio o amgylch sawdl y droed a ni ddylai siorts a sgertiau fod yn uwch na’r pen-glin.

Hefyd, ni ddylai’r gyrwyr wisgo dillad gyda sloganau, capiau pel-fâs, sodlau amlwg na dillad sy’n gadael yr ysgwyddau a thop y breichiau heb eu gorchuddio.

Yr wythnos yma, cytunodd cynghorwyr sir Conwy i fabwysiadu'r côd ymddygiad a gwisg newydd ar gyfer gyrwyr tacsi a cherbydau hacni sydd i’w gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i'r côd gynnwys rheolau am ymddygiad gyrwyr, a disgwyliadau y bydd cerbydau’n lân ac yn daclus.

Dywedodd swyddog trwyddedu Conwy, John Donelly, wrth gyfarfod o bwyllgor trwyddedu'r cyngor y bydd gan y cyngor hawl i roi rhybudd ysgrifenedig i yrrwr, sydd ddim yn glynu at y safonau.

Ond ychwanegodd: “Ni fyddwn o reidrwydd yn hysbysu eu cyflogwr oni bai ein bod yn credu ei fod yn briodol.”

Dywedodd fod y cyngor eisoes yn cynnal gwiriadau ar hap ar gerbydau a gyrwyr yn ystod y dydd a nos o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.