Gwobr atal troseddu i grŵp o bobl ifanc o'r gogledd
Mae grŵp o’r gogledd wedi dod i’r brig yng Ngwobrau Cenedlaethol Crimebeat yn Llundain ddydd Mawrth.
Youth Shedz Cymru oedd enillwyr y brif wobr am eu gwaith cymunedol. Nod y wobr yw cydnabod y prosiectau mwyaf arloesol sydd yn atal troseddu gan bobl ifanc.
Mae Youth Shedz yn le diogel i bobl ifanc fynd er mwyn meithrin sgiliau newydd a datblygu fel unigolion.
Cafodd y grŵp ei sefydlu gan Scott Jenkins yn 2017 wedi iddo dreulio cyfnod o’i fywyd yn gaeth i gyffuriau ac yn dioddef gyda’i iechyd meddwl.
Mae gweithgareddau fel gwaith coed, sgiliau bywyd a chelf yn cael eu cynnal gan y cynllun.
Mae grwpiau wedi cael ei sefydlu ym Mlaenau Ffestiniog, Sir y Fflint, Bae Colwyn, Sir Ddinbych, Caergybi, Bae Cinmel, Llandudno, Prestatyn, Y Rhyl a Wrecsam.
'Syfrdanu'
Elusen atal troseddau ymhlith pobl ifanc yw Crimebeat ac roedd y gwobrau yn cael eu rhoi i grwpiau a mudiadau o Gymru a Lloegr.
Fel rhan o’r seremoni wobrwyo roedd yn rhaid i bob grŵp wneud cyflwyniad o’r hyn roeddent wedi cyflawni gyda’u mudiad.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd tudalen Youth Shedz Cymru eu bod wedi “syfrdanu” ar ôl dod i’r brig yn y seremoni gwobrwyo.
“Da ni’n mor falch o’r Shedderz oedd yn ein cynrychioli ni.
“Dyw e ddim yn beth hawdd i siarad ar lwyfan yn Llundain o flaen cymaint o bobl.
“Diolch mawr i bob person ifanc da ni yn eu cynrychioli,” medden nhw.
Llun: Youth Shedz Cymru/Facebook