
Vladimir Putin yn cytuno i atal ymosodiadau ar safleoedd ynni Wcráin
Mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi cytuno i atal ymosodiadau ar safleoedd ynni Wcráin am 30 diwrnod yn dilyn galwad ffôn gyda Donald Trump ddydd Mawrth.
Nid yw Wcráin wedi ymateb i'r cyhoeddiad eto, ac fe fydd gan Rwsia rwydd hynt i barhau gyda'i ymgyrch filwrol ar lawr gwlad.
Fel rhan o'r cytundeb fe fydd trafodaethau heddwch yn digwydd yn y Dwyrain Canol ar unwaith.
Mae'r Kremlin wedi rhestru nifer o gamau sydd angen eu gweithredu fel rhan o unrhyw broses heddwch - gan gynnwys atal pob cymorth milwrol rhyngwladol a cudd-wybodaeth i Wcráin.
Mae Moscow hefyd yn galw am drosglwyddo carcharorion rhyfel rhwng Rwsia a Wcráin - gyda 175 o garcharorion i gael eu rhyddhau ar 19 Mawrth.
Roedd trafodaeth hefyd rhwng y ddau arweinydd yn yr alwad ffôn am yr angen i weithio tuag at heddwch yn y Dwyrain Canol yn y tymor hir.
Fe fydd y cytundeb i atal ymosodiadau ar safleoedd ynni'r ddwy wlad yn cael ei groesawu gan rain yn Wcráin wedi misoedd o ymladd ffyrnig, ond fe fydd hefyd yn cyfyngu ar allu lluoedd Volodomyr Zelensky i darfu ar beiriant milwrol Rwsia.

Mewn datganiad yn dilyn y drafodaeth, dywedodd y Tŷ Gwyn: “Cytunodd yr arweinwyr y bydd y symudiad i heddwch yn dechrau gyda chadoediad ynni a seilwaith, yn ogystal â thrafodaethau technegol ar weithredu cadoediad morol yn y Môr Du, cadoediad llawn a heddwch parhaol.
“Bydd y trafodaethau hyn yn dechrau ar unwaith yn y Dwyrain Canol.
“Siaradodd yr arweinwyr yn fras am y Dwyrain Canol fel rhanbarth o gydweithredu posibl i atal gwrthdaro yn y dyfodol.
“Cytunodd y ddau arweinydd fod yna fantaisr enfawr i ddyfodol gyda pherthynas ddwyochrog well rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia.
“Mae hyn yn cynnwys cytundebau economaidd enfawr a sefydlogrwydd gwleidyddol daearyddol pan fydd heddwch wedi’i gyflawni.”