Marwolaeth Tonysguboriau: Chwech yn ymddangos yn y llys
Mae chwe pherson wedi ymddangos yn y llys yng Nghaerdydd ddydd Mawrth mewn cysylltiad â marwolaeth dynes 40 oed yn Nhonysguboriau.
Bu farw Joanne Penney ar ôl iddi gael ei saethu yn y dref ar 9 Mawrth.
Ymddangosodd pum person sydd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ac un person sydd wedi ei gyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Mae Marcus Huntley, 20, o Laneirwg, Caerdydd; Melissa Quailey-Dashper, 39, o Gaerlŷr; Joshua Gordon, 27, o Oadby, Sir Gaerlŷr; a Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr, i gyd wedi'u cyhuddo'n flaenorol o lofruddiaeth.
Mae Porter hefyd wedi’i gyhuddo o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddol.
Mae Kristina Ginova, 21, o Oadby, Sir Gaerlŷr, wedi’i chyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Ymddangosodd Quailey-Dashper a Ginova trwy gyswllt fideo o garchar Eastwood Park, ac ymddangosodd Mills-Smith o Garchar Caerdydd.
Ymddangosodd Huntley, Gordon a Porter yn y doc.
Ni chafodd unrhyw ble ei gyflwyno yn ystod y gwrandawiad ddydd Mawrth, ac fe gafodd yr holl ddiffynyddion eu cadw yn y ddalfa.
Fe wnaeth Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur y Llys, osod 20 Hydref fel dyddiad yr achos.
Mae disgwyl i'r achos bara rhwng chwech ac wyth wythnos.
Bydd gwrandawiad cyn yr achos yn cael ei gynnal ar 7 Gorffennaf.