Newyddion S4C

Ymgyrch newydd i geisio ymateb i droseddu difrifol ym Mangor

BANGOR.jpg
Mae ymgyrch newydd wedi ei lansio ym Mangor er mwyn ceisio mynd i'r afael â throseddu difrifol a throsedd sydd wedi ei drefnu yn y ddinas.
 
Mae Bangor wedi bod yn y penawdau dros y misoedd diwethaf wedi i nifer o ffatrioedd canabis gael eu darganfod ar y stryd fawr yno.
 
Mae'r ddinas hefyd yn ganolbwynt i gyflenwyr cyffuriau caled o ddinasoedd mawr sydd am dargedu cymunedau yn y gogledd orllewin a Môn.
 
Adnewyddu Bangor ydy’r fenter 'Hel Dal Cryfhau' ddiweddaraf yng Ngogledd Cymru, ac mae wedi’i lansio yn dilyn llwyddiant cynllun tebyg yn y Rhyl llynedd meddai'r heddlu.
 
Yno fe welwyd gostyngiad o 14% mewn troseddau oedd wedi’u cofnodi yn dilyn yr ymgyrch yn y dref.
 
O ddydd Llun, bydd tîm penodol o swyddogion yn cynnal patrolau ar y stryd fawr ac ardaloedd sy’n peri pryder, yn ogystal ag ymgysylltu efo busnesau lleol ynglŷn â’r problemau maen nhw’n wynebu yn y ddinas.
 
Bydd partneriaid yn cydweithio er mwyn ymdrin efo problemau sydd wedi eu codi gan y gymuned leol, gan gynnwys cyflenwi cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, yfed alcohol ar y stryd a thrais rhywiol.
 
Dywedodd yr Uwcharolygydd Ardal, Arwel Hughes o Heddlu'r Gogledd: “Mae Bangor yn ardal wych, ac yn un mae’r gymuned yn falch o fyw a gweithio ynddi ac ymweld â hi.
“Mae adborth gan breswylwyr wedi dangos i mi y bydd ymdriniaeth fwy cadarn ar gyfer atal a threchu troseddau difrifol a threfnedig yn cael croeso, er mwyn dod â newid cadarnhaol i’r ddinas.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.