Newyddion S4C

Galw am ailagor pont yn Nhrefynwy

Newyddion S4C 16/03/2025

Galw am ailagor pont yn Nhrefynwy

Mae trigolion Trefynwy yn galw am ailagor Pont Inglis sydd o dan berchnogaeth Y Weinyddiaeth Amddiffyn ac wedi ei chau ers mis Medi oherwydd pryderon am ei diogelwch.

Mae Cyngor Sir Fynwy, yr Aelod Seneddol lleol ac aelodau’r gymuned yn galw am weithredu i’w hailagor.

Yn ôl Y Weinyddiaeth Amddiffyn mae’n nhw’n “cydweithio â Chyngor Sir Fynwy” ac maen nhw'n dweud bod y “y cynllun atgyweirio wedi ei gymeradwyo”.

“Mae hi’n bont sydd ar lwybr saff o Osbaston i Overmonow, a bellach mae’n golygu taith o filltir ychwanegol i bobl gerdded drwy’r dre ar hyd palmant cul,” meddai’r Cynghorydd Emma Bryn. 

“Mae lot fwy o bobl yn gyrru lle roedden nhw’n seiclo neu’n cerdded o’r blaen, felly mae yna lot yn fwy o draffig yn y dre. Ac ma' pobl ddim yn cael y cyfle i gadw’n heini chwaith.

"Ni yn gobeithio y bydd yr M.O.D yn ffeindio’r arian a’i hailagor gan fod y gymuned yn becso lot amdano fe."

'Rhwystr' 

Mae’r bont yn cysylltu’r gymuned hefyd gyda chaeau chwarae Vauxhall yn ogystal â chyfleusterau eraill. 

"Mae'n rhwystr anferth i fy mywyd. Dyma oedd fy nrws i gefn gwlad," meddai Stuart Ross, sydd mewn cadair olwyn. 

"Nid yn unig bod ysbyty cymunedol yr ochr arall i'r bont dwi’n ei ddefnyddio, yn ogystal â chanolfan gymunedol sydd â dosbarthiadau ar gyfer popeth."

Does dim llawer o bontydd o’r fath yn dal i fodoli, yn ôl haneswyr. Fe gafodd pontydd Inglis eu defnyddio yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf  gan eu bod yn hawdd i’w codi ac yn gadarn. 

Cafodd yr un yn Nhrefynwy ei chodi ym 1931 ac fe gafodd ei hadfer ym 1988. 

Gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer wedi amlinellu cynlluniau i gynyddu gwariant amddiffyn i 2.5% o incwm gwladol erbyn 2027, mae’n dalcen caled, yn ôl yr Aelod Seneddol lleol. 

"Yn y pen draw, mae'n anodd iawn achos dwi'n gwybod bod rhaid i'r Weinyddiaeth Amddiffyn fod yn meddwl am ein hamddiffyn,” meddai Catherine Fookes A.S.

“Mae'r bont hon yn eiddo i'r M.O.D ac mae gyda nhw flaenoriaethau mawr o ran ein gwariant ar bethau milwrol rheng flaen, edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin ar hyn o bryd.  

"Dydw i ddim yn meddwl eu bod yn anghofio [am gymunedau] ond mae'n gydbwysedd anodd iawn rhwng gwario'r arian ar amddiffyn rheng flaen neu a ydych chi'n gwario'r arian ar seilwaith lleol.

“Byddwn i'n dadlau bod isadeiledd lleol yr un mor bwysig â phethau eraill." 

Yn ôl Cyngor Sir Fynwy mae nhw wedi cysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn gan eu hannog i weithredu.

Yn ôl Y Weinyddiaeth Amddiffyn mae’n nhw’n “cydweithio â Chyngor Sir Fynwy” ac maen nhw'n dweu  bod “y cynllun atgyweirio wedi ei gymeradwyo”. Maen nhw hefyd yn “ymddiheuro am yr anghyfleustra sydd wedi ei achosi i’r gymuned leol" ond yn pwysleisio mai diogelwch y cyhoedd sydd bwysicaf.

Llun: Anthony Cope 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.