Newyddion S4C

Pryder am effaith tollau Donald Trump ar y diwydiant ceir

Pryder am effaith tollau Donald Trump ar y diwydiant ceir

Mewn hinsawdd econmaidd sy'n bell o fod yn sefydlog mae'r galw am geir ail law fel hyn yn gryf o hyd.

"Y stwff confensiynol 'dan ni'n dal i werthu, dim petha mentrus.

"Dydy'n cwsmeriaid ni ddim yn cael eu denu at y ceir trydan.

"Mae gyda ni Seat, Volkswagen, Volvo, petrol a disel."

Mae'n newydd da i rai sy'n gwerthu ar lawr gwlad a gwerthiant y ceir wedi tyfu yn gyson ers dros ddwy flynedd.

"Gan fod llai o geir newydd yn cael eu cynhyrchu effaith hynny ydy bod prisiau ceir ail law yn dda.

"Mae 'na brinder stoc ac os dach chi'n gallu ffeindio'r stoc byddwch chi'n gwerthu fo'n syth.

"'Dan ni di bod yn gyson a chael tair blynedd llewyrchus iawn."

Mae'r patrwm gwerthu yn cael ei ddylanwadu gan rym sy'n bell o adra.

O heddiw ymlaen bydd allforio dur ac alwminiwm i America yn llawer drytach.

Gyda rhai yn amcangyfrif y bydd y gost o wneud hynny o leiaf $100 miliwn yn ddrytach i gwmniau yn America.

"Ni'n byw mewn byd cysysylltiedig.

"Mae unrhyw newid i unrhyw ddiwydiant yn cael effaith.

"Ni'n gwybod bod angen i rannau o geir gael eu datblygu allan o'r gwaith dur ac alwminiwm."

Yn y Senedd yn Llundain roedd y Prif Weinidog yn siomedig ond yn parhau i obeithio am gytundeb masnach a'r Unol Daleithiau.

"We will take a pragmatic approach, we're negotiating a deal which will include tariffs.

"We will keep all options on the table."

A chwmni dur Tata ar safle Port Talbot yn dweud bod rhaid cael y cytundeb mor fuan a phosibl er mwyn diogelu swyddi.

"The longer these tariffs are in place the more harm it'll do.

"US customers might start looking elsewhere it might change the product line.

"It has a long term knock-on effect."

Ond gyda disgwyl y bydd llai o ddur o Ewrop yn mynd i America roedd ymateb yr Undeb Ewropeaidd llawer cryfach.

"Tariffs are taxes, they are bad for business and worse for consumers.

"They're disrupting supply chains and bring economic uncertainty.

"Jobs are at stake, prices are up, nobody needs that."

Bydd unrhyw gwmni o America sydd am fewnforio dur neu alwminiwm yn gorfod talu toll o 25% yn ychwanegol.

Bwriad Donald Trump yw cryfhau y diwydiant dur yn America.

Ond rwan bydd hi'n ddrytach i America ddanfon nwyddau i'r Undeb Ewropeaidd gyda thollau ar nwyddau gwerth £21.9bn yn cael eu cyflwyno o fis Ebrill.

Ers 2019 mae'r nifer o geir newydd sy'n cael eu creu yn y DU wedi mwy na hanneru.

A'r cyfan oll yn debygol o gael effaith ar gostau yn enwedig yn y sector cynhyrchu ceir.

"Mae'r sector ceir yn y blynyddoedd dwetha wedi gweld hi'n anodd.

"Ni 'di colli nifer o weithfeydd ceir a rhai wedi symud tramor gan fod costau'n uchel iawn yma.

"Unrhyw newid fel hyn lle bydd y costau'n cynyddu eto mae'n berygl i'r diwydiant ceir ym Mhrydain."

Fesul diwrnod mae'r farchnad ryngwladol yn teimlo'n fwy ansicr a'r goblygiadau nol yma yn anelwig.

Mae'r lon yn hir a'r galw am sefydlogrwydd yn fwy nag erioed.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.