Newyddion S4C

Selsig rhatach i gwsmeriaid cigydd yn Nulyn ‘am ofyn yn y Wyddeleg’

Stephen Roy

Mae cigydd yn ninas Dulyn yn cynnig disgownt i gwsmeriaid sydd yn gofyn am gynnyrch yn y Wyddeleg.

Dywedodd siop gigydd Troy’s wrth yr Irish Independent bod hyn yn eu cysylltu â hanes a threftadaeth Moore Street ym mhrifddinas Gweriniaeth Iwerddon.

"Byddwn i’n cael cwpl o gannoedd o bobl i mewn, yn archebu bacwn a selsig yn y Wyddeleg," meddai’r cigydd Stephen Troy.

Mae’r cigydd yn rhoi gostyngiad o 10c i gwsmeriaid sy’n archebu yn y Wyddeleg yn ystod wythnos na Gaeilge, a gynhelir rhwng 1 a 17 Mawrth.

Dywedodd Mr Troy: “Ni yw’r bumed genhedlaeth i gymryd drosodd y busnes yma ar Moore Street. Ni yw un o’r unig fusnesau dwy genhedlaeth sydd ar ôl yma, ynghyd â’r masnachwyr stryd.

“Rwyf wrth fy modd â Moore Street. Ond dros y blynyddoedd, yn anffodus rydym wedi’i weld yn cael ei esgeuluso.

“Oherwydd hynny, mae wedi dod yn enwog am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Ond diolch byth, rydyn ni’n dal i wneud yn dda yma ac mae gennym ni sylfaen cwsmeriaid da, ffyddlon. Mae'n wych eu cael nhw yma.

Mae Mr Troy yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio’r Wyddeleg er mwyn “dod ag ysbryd cymunedol ychwanegol i'r ardal”.

“Roedd gen i ddiddordeb erioed yn yr iaith Wyddeleg, hanes, a diwylliant, yn enwedig bod ar Moore Street,” meddai.

“Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y wlad wedi’i geni ar Moore Street mewn gwirionedd, felly mae cael ychydig o Wyddeleg yn fy nghysylltu â threftadaeth y stryd hefyd.

“Mae Baile Átha Cliath na Gaeilge yn recriwtio busnesau i hybu’r Wyddeleg o fewn y gweithle. Byddwn yn argymell pob busnes yn fawr i gymryd rhan.”

Llun: Irish Independent/Gerry Mooney

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.