‘Cymru wahanol heb Dafydd Elis-Thomas’: Y Prif Weinidog yn cofio mewn rhaglen newydd
“Heb Dafydd, dwi ddim yn meddwl bydden ni’n byw yn y Gymru ni’n byw ynddi heddiw”.
Dyna eiriau Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wrth iddi gofio Dafydd Elis-Thomas mewn rhaglen a fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C ddydd Sul.
Bu farw Dafydd Elis-Thomas ar 7 Chwefror a bydd ei angladd yn cael ei chynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd, brynhawn dydd Gwener.
“Mi fydda’ i yn ei gofio fel un o gewri ein cenedl,” meddai Eluned Morgan.
“Dyn oedd yn angerddol tuag at ei wlad, yn angerddol tuag at yr iaith a diwylliant. Heb Dafydd dwi ddim yn meddwl bydden ni’n byw yn y Gymru ni’n byw ynddi heddiw.”
Bydd y rhaglen yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o wleidyddion blaenllaw Cymru, gan gynnwys Dafydd Wigley, Rhun ap Iorwerth, a chydweithwyr a ffrindiau.
Yn y rhaglen mae Rhodri Williams, cyfaill oes i Dafydd a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn myfyrio ar foment wnaeth ddiffinio ei yrfa.
“Roedd Dafydd wedi bod yn ymgyrchu dros hwn ar hyd ei oes fel oedolyn, dyma oedd penllanw ei waith gwleidyddol,” meddai.
“Fe ddaeth â’i holl brofiad o Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi i’r Cynulliad - fyddai neb arall wedi gallu gwneud.”
Wrth siarad am ei gyfnod fel Llywydd cyntaf y Cynulliad, meddai’r Athro Laura McAllister, cyfaill ac academydd gwleidyddol, ei fod wedi “deall bod rôl y Llywydd yn un newydd iawn”.
“Roedd e’n defnyddio rôl y Llywydd i wthio yn erbyn y sefydliad ac i drio creu rhyw fath o le i wleidyddiaeth wahanol,” meddai.
Cofio Dafydd Elis-Thomas. Nos Sul, 16 Mawrth 20.30. Ar alw: S4C Clic ac iPlayer.