'Allwn ni ddim parhau fel hyn': Toriadau Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio fod "blwyddyn anodd" yn wynebu'r corff, wedi iddyn nhw wneud toriadau sylweddol.
Mae 256 o swyddi wedi diflannu, yn sgîl toriadau o £10.9 miliwn yn eu cyllideb.
Wrth annerch pwyllgor hinsawdd y Senedd ddydd Mercher, dywedodd cadeirydd y bwrdd, Syr David Henshaw:"Allwn ni ddim parhau fel hyn."
Ond ychwanegodd:"Ein dyletswydd yw wynebu'r her a delio gydag e."
Mynegodd nifer o aelodau'r pwyllgor bryder am gynlluniau CNC i gau eu canolfannau ymwelwyr yng Nghoed y Brenin, Ynyslas, a Nant yr Arian.
Mewn ymateb, dywedodd Syr David:"Gadewch i ni fod yn glir, dyw'r fforestydd a'r llefydd yma ddim yn cau... yr hyn rydym ni'n ystyried yw cau caffis a siopau, sy'n costio tua £1 miliwn y flwyddyn.
"Doedden ni ddim yn gwneud lot o fusnes yn y siopau a'r caffis yma, roedden nhw'n gwneud colledion mawr...o ystyried heriau'r gyllideb, roedd yn rhaid i ni edrych ar y peth o ddifri."
Dywedodd prif weithredwr dros dro CNC, Ceri Davies, fod y corff bellach yn ceisio canolbwyntio ar y meysydd lle roedden nhw'n gallu gwneud gwahaniaeth; fel risg llifogydd, safon dŵr, a bio-amrywiaeth.
"Gyda chalon drom, rydym ni wedi gorfod rhoi'r gorau i wneud rhai pethau," meddai.
Clywodd y pwyllgor hefyd fod CNC wedi gorfod cael benthyciad o £19 miliwn gan y Llywodraeth er mwyn talu bil treth annisgwyl, sy'n deillio o gostau staff. Bydd yr arian yn cael ei dalu nôl dros y ddegawd nesaf drwy leihad yng nghyllideb flynyddol y corff.