
Gwneud arwyddion cain yn y Gymraeg yn 'rhan o'n hunaniaeth ni'
Mae dyn sydd yn gwneud arwyddion cain yn dweud bod gwneud comisiynau yn y Gymraeg yn “bwysig iawn” iddo am ei fod yn “rhan o’n hunaniaeth ni i gyd”.
Wrth siarad ar raglen gelfyddydol Y Sîn ar S4C, mae Tomos Jones, sy'n byw yn Sir Conwy, yn dweud nad yw’r grefft wedi cael llawer o sylw yn y gorffennol.
Ond mae’r gwaith yn “teimlo fel rhywbeth newydd sbon er bod o’n hen” meddai.
Fe benderfynodd Tomos beintio arwyddion gyda llaw yn broffesiynol yn ystod y cyfnod clo.

“Jest ar ôl y lockdown cyntaf nath ffrind ddeud, ‘O ti’n gallu darlunio, fedri di neud menu ar wal y caffi i ni?’. O’n i wrth fy modd yn neud a odd hi yn deud, ‘Pam ti ddim yn gwneud hyn fel swydd’ ac odd o literally penny dropped moment’.”
Mae’n dweud fod ganddo obsesiwn gyda tharddiad llythrennau a rhai Rhufeinig ac mai dyma sydd yn dylanwadu ar ei waith.
“Hwnna ydy y foundation i bob un llythyren sydd gennan ni y dyddiau yma. Dwi’n meddwl os yn deall y propotions a’r style o Rufeinig mae popeth yn gallu dilyn. Dwi hefyd yn hollol obsessive. Ac mae ADHD ac autism yn helpu fi felna a dwi di prynu bob llyfr dwi’n gallu ynglŷn â hen arwyddion a petha.”
Yn 2023 fe wnaeth Tomos brosiect ar y cyd gyda Menter Môn er mwyn dathlu enwau llefydd yn Gymraeg ar Ynys Môn. Un o’r enwau aeth ati i’w hysgrifennu oedd Llanfairpwllgwyngyll yn llawn.
Mae weithiau yn defnyddio deilen aur wrth wneud yr arwyddion fel y gwnaeth gyda Gwesty Gwydyr ym Metws y Coed.
“Da ni yn defnyddio cymysgedd o dwr a gelatine i gael y deilen i sticio i’r gwydr ei hun a dwi yn defnyddio aur go iawn.”
Mae gweld ei waith o gwmpas y lle yn “uffar o fraint” meddai.

Bydd modd gwylio Y Sîn ar S4C am 20.25 nos Fercher ac ar S4C Clic ac iPlayer.