Hugh Thomas, cyn-lywydd yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi marw
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi rhoi teyrnged i Hugh Thomas, cyn-lywydd a chyn-gadeirydd bwrdd rheoli'r Brifwyl, sydd wedi marw.
Cafodd ei urddo'n Gymrawd yr Eisteddfod yn 2014. Yn gyfreithiwr o ran galwedigaeth, aeth i weithio ym myd llywodraeth leol am 40 mlynedd.
Bu'n Brif Weithredwr ar yr hen Gyngor Sir Morgannwg Ganol am 15 mlynedd.
Yn ystod y cyfnod hwn gwasanaethodd fel Clerc i Awdurdod Heddlu De Cymru ac Ysgrifennydd Cynulliad Siroedd Cymru.
Ar ôl ymddeol yn 1995, aeth ymlaen i gadeirio nifer o gyrff cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol gan gynnwys y rhai yn y sectorau iechyd ac addysg uwch.
Ef oedd Is-Gadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio Canolfan Iechyd Cymru.
Roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Dŵr Cymru ac yn Gadeirydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru.
Ropedd hefyd yn un o ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gyfnod.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Heddiw rydyn ni'n cofio am Hugh Thomas, cyn-lywydd yr Eisteddfod a chyn-gadeirydd ein Bwrdd Rheoli a fu'n rhan allweddol o ddatblygiad yr Eisteddfod dros y chwarter canrif ddiwethaf ac yn Gymrawd yn ystod ei flynyddoedd olaf.
"Roedd yn gefnogwr ac yn gymwynaswr i'r Brifwyl, ac yn barod ei gyngor doeth tan y diwedd.
"Rydyn ni'n ddiolchgar am ei gyfraniad, ei gefnogaeth a'i gwmni, ac yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a'i ffrindiau heddiw."