Powys: Arestio bachgen 16 oed wedi i ddyn gael ei drywanu
Mae bachgen 16 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol wedi i ddyn gael ei drywanu ym Mhowys.
Ar ôl cael gwybod am ddigwyddiad ger Lôn Parkers yn Y Drenewydd am 20.25 nos Wener, fe ddaeth swyddogion Heddlu-Dyfed Powys o hyd i ddyn 18 oed oedd wedi’i drywanu.
Roedd y dyn wedi dioddef anaf i’w fraich ac roedd yn rhaid i’r llu roi cymorth cyntaf iddo.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn ddiweddarach.
Cafodd bachgen 16 oed ei arestio yn fuan wedyn ac mae’n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau yn yr ardal wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliadau pellach.
Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Dyma’r ail dro i berson gael ei arestio ar ôl defnyddio cyllell mewn modd treisgar yn yr ardal yr wythnos hon.
Cafodd dyn 20 oed ei arestio a’i gyhuddo o fygwth person gydag eitem llafnog (‘bladed article’) mewn man cyhoeddus yng nghanol y dref ddydd Gwener.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Sadwrn.