Cynnal Diwrnod o Fyfyrdod Covid-19 bum mlynedd ers dechrau'r pandemig
Fe fydd nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad ddydd Sul i nodi Diwrnod o Fyfyrdod Covid-19.
Mae Diwrnod o Fyfyrdod Covid-19 yn amser i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau ac yn gyfle "i anrhydeddu'r gwaith diflino a ddangoswyd yn ystod y pandemig" yn ôl y trefnwyr.
Rhwng mis mis Mawrth 2020 a Gorffennaf 2022 y gred yw bod 180,000 o bobl wedi marw ar ôl cael eu heintio gyda Covid-19 yng Nghymru a Lloegr.
Roedd 12,000 o'r marwolaethau yng Nghymru.
Cafodd miloedd yn rhagor o bobl eu cludo i'r ysbyty am driniaeth yn ystod y pandemig.
Roedd cynnal diwrnod blynyddol o fyfyrdod yn un o 10 o awgrymiadau gafodd eu cynnig gan Gomisiwn y DU ar goffáu Covid.
Yma yng Nghymru fe fydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Wrecsam, Caerffili, Llanelli, Treffynnon a Merthyr gan grwpiau lleol i nodi'r diwrnod.
Ond ni fydd un digwyddiad mawr swyddogol yn cael ei gynnal, ac mae hyn wedi gwylltio'r grŵp ymgyrchu, Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r teuluoedd oedd wedi colli eu hanwyliaid "ar flaen ein meddyliau wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal gan grwpiau cymunedol ar hyd y DU i nodi Diwrnod Myfyrio Covid-19".
Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Lisa Nandy, wrth gyhoeddi'r digwyddiad: " Cafodd pandemig Covid-19 effaith ddofn ar bob un ohonom.
"Mae’r Diwrnod Myfyrio hwn yn gyfle i gofio’r ffrindiau a’r anwyliaid a gollon ni, yn ogystal â’r aberthau a wnaeth cymaint o bobl.
"Mae llawer o ffyrdd i gymryd rhan yn y Diwrnod Myfyrio, boed yn drefnu neu fynychu digwyddiad cymunedol, neu gofio yn eich ffordd eich hun gartref.
"Mae’n bwysig bod pobl yn cymryd rhan yn y ffordd sy’n iawn iddyn nhw."
Dywedodd Cadeirydd Comisiwn Coffáu Covid, y Farwnes Morgan o Cotes: " Wrth i bob blwyddyn fynd heibio ers uchder y pandemig gall deimlo fel pe bai Covid yn fwy a mwy o atgof pell.
"Ac eto gwn o'r sgyrsiau a gafodd Comisiynwyr Coffau Covid y DU, fod y rhai a gollodd anwyliaid yn gwerthfawrogi diwrnod pan fydd llawer o rai eraill hefyd yn cofio'r rhai a gollodd eu bywydau gyda nhw."