Newyddion S4C

Dynes oedd mewn gwrthdrawiad ger meddygfa yn Ninbych wedi marw

08/03/2025
Celia Adams

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi fod dynes oedd mewn gwrthdrawiad mewn maes parcio meddygfa yn Ninbych wedi marw.

Cafodd Celia Adams, 81 oed o ardal Henllan, ei tharo ym maes parcio Meddygfa Brynffynnon yn y dref ar fore Chwefror 18.

Bu farw ar 28 Chwefror yn yr ysbyty yn Stoke.

Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: “Roedd Celia Adams nid yn unig yn Wraig, Mam, Chwaer, Nain, a Hen Nain, hi oedd y glud oedd yn ein dal ni i gyd gyda’n gilydd. 

“Roedd Celia yn fenyw â llawer o dalentau ac roedd ganddi un o’r calonnau mwyaf. Roedd hi wrth ei bodd â chŵn, gan achub ac ailgartrefu llawer dros y blynyddoedd. 

"Roedd ei chartref a’i chwmni yn ofod diogel i lawer."

Ychwanegodd y teulu: “Mae’n torri ein calonnau i ddweud bod Celia (angel ar y ddaear) wedi marw’n heddychlon gyda’i theulu wrth ei hochr. 

“Fel teulu gofynnwn i ni gael ein gadael i alaru’r golled aruthrol hon gyda’n gilydd. Rydym wedi derbyn llawer o eiriau a meddyliau caredig ac yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gawsom eisoes."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.