‘Ychydig yn weird’: Gwerthu cwrw di-alcohol mewn pecynnau bargen bwyd

‘Ychydig yn weird’: Gwerthu cwrw di-alcohol mewn pecynnau bargen bwyd
Mae cwrw di-alcohol bellach yn cael ei werthu fel rhan o becynnau bargen bwyd ('meal deal') yn archfarchnad Sainsbury’s.
Mae’n bosib prynu Lucky Saint Unfiltered Lager 0.5% a Corona Cero i fynd gyda’ch brechdan a byrbryd.
Dywedodd Siôn Meirion, sy’n creu cynnwys am ei siwrnai sobrwydd ar TikTok: “‘Dwi’n meddwl bod o ychydig bach yn weird - unless mae gennych chdi broblem efo alcohol sa chdi’m rili’n cael cwrw efo meal deal chdi.
“Ti’m yn gallu cael cwrw full-on alcohol efo meal deal chdi, so pam s’dach chi’n gallu cael un heb alcohol?"
Ond, dydy cwrw di-alcohol ddim wastad yn hollol ddi-alcohol. Mae’r term ‘di-alcohol’ yn cael ei roi i ddiodydd sy’n cynnwys hyd at 0.05% abv (alcohol fesul cyfaint).
Yn Ewrop, lle mae Lucky Saint 0.5% yn cael ei fragu, maen nhw’n ystyried 0.5% abv yn ‘ddi-alcohol’; ond, yn y Deyrnas Unedig, mae Lucky Saint 0.5% yn cael ei ystyried yn gwrw dad-alcoholaidd (de-alcoholised).
Ychwanegodd Siôn: “Dydy 0.5% [alcohol fesul cyfaint] - dio’m technically yn ddi-alcohol rili, ‘chos mae ‘na fel 0.5% mewn banana, so.”
‘Sbarduno chwant’
Yn ôl ymchwil gan ImpossiBrew - brand cwrw di-alcohol yn y DU - gall blas, golwg ac arogl diodydd di-alcohol sbarduno chwant i yfed alcohol ymysg pobl sy’n sobor.
“Dwi’n meddwl sa’ fo’n gallu bod yn trigger i bobl sydd efo problem efo alcohol.
“Ond, yn siarad o [safbwynt] berson oedd yn binge drinker, ‘dwi’m yn meddwl bod o’n triggering, ond efallai bod e’n gallu bod i rai pobl.
Pobl ifanc
Yn ôl arolwg gan YouGov, mae 46% o oedolion ifanc rhwng 25-34 oed yn dewis diodydd gyda lefelau alcohol isel neu di-alcohol.
“‘Dwi’n meddwl bod yna massive surge o bobl ifanc yn yfed diodydd alcohol-free,” dywedodd Siôn.
“Dwi’n meddwl y rheswm mwyaf ydy achos mae pobl jyst mwy mewn i wellness a jyst teimlo’n grêt y diwrnod wedyn.”