Newyddion S4C

Reform yn dyblu nifer eu cynghorwyr yng Nghymru

07/03/2025
Nigel Farage a'r cynghorwyr
Nigel Farage a'r cynghorwyr

Mae pedwar cynghorydd wedi ymuno â phlaid Reform ym Mhowys, gan ddyblu nifer cynghorwyr y blaid yng Nghymru.

Mae dau gynghorydd annibynnol, Geoff Morgan a Claire Jonson-Wood, a dau gynghorydd o’r Blaid Geidwadol, Iain McIntosh a Karl Lewis, wedi ymuno â’r blaid.

Roedd y Cynghorydd McIntosh yn Gadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Brycheiniog, Maesyfed a Chwmtawe ac yn Ddirprwy Gadeirydd ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru'r blaid.

“Reform UK bellach yw’r unig blaid sy’n wirioneddol gynrychioli’r gwerthoedd yr wyf wedi credu ynddynt erioed," meddai.

"Dyma’r unig blaid sy’n barod i sefyll dros ryddid barn, trethi is, cyfiawnder gwirioneddol, a hawl pob dinesydd Prydeinig i ymfalchïo yn eu gwlad."

Daw wedi i’r cynghorydd Reform cyntaf gael ei ethol yng Nghymru ym mis Chwefror, wrth i Stuart Keyte ennill sedd ar gyngor Torfaen.

Fe wnaeth tri chynghorydd symud i blaid Reform ar gyngor Torfaen y llynedd. 

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru: “Mae gan ein cynghorwyr hanes cryf o wasanaethu eu cymunedau, ac rydym yn hyderus y byddant yn parhau i frwydro dros fuddiannau'r bobl y maen nhw’n eu cynrychioli dan faner Reform UK. 

“Mae eu cefnogaeth yn cryfhau ymhellach ein hymrwymiad i herio'r status quo a darparu atebion gwirioneddol i'r materion y mae pobl yn poeni amdanynt.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.